Cyfarfodydd
NDM6801 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ) - Colli Babanod
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 03/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 03/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 03/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Colli Babanoad
NDM6801
Lynne
Neagle (Torfaen)
David
Rees (Aberafan)
Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Cefnogwyr
Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Helen
Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y bu
263 o fabanod farw neu'n farw-anedig yng Nghymru yn 2016 ac, yn aml, na all
teuluoedd yr effeithir arnynt gan golli baban gael mynediad priodol at
wasanaethau neu gymorth.
2. Yn croesawu wythnos
ymwybyddiaeth colli babanod, a drefnir gan gynghrair o fwy na 60 o elusennau
ledled y DU ac a gynhelir rhwng 9 a 15 Hydref 2018 i roi cyfle i godi
ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd gofal profedigaeth rhagorol i bob rhiant ar
ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl marwolaeth baban.
3. Yn cydnabod bod
wythnos ymwybyddiaeth colli babanod hefyd yn rhoi cyfle pwysig i rieni mewn
profedigaeth, a'u teuluoedd a'u ffrindiau, uno a choffáu bywydau eu babanod.
4. Yn cydnabod y dylai
pob rhiant mewn profedigaeth gael yr un safon uchel o ofal pan fydd baban yn
marw, ac er na all gofal da ddileu poen a galar rhieni, gall helpu rhieni
drwy'r amser trychinebus hwn.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella'r gofal y mae rhieni yn ei dderbyn ar
ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban drwy:
a) ymrwymo i ddarparu
gwell gofal profedigaeth sydd ar gael i bob rhiant ar ôl colli baban yn ystod
beichiogrwydd neu ar ôl marwolaeth baban, a gwella'r gofal hwnnw;
b) mabwysiadu set
graidd o safonau ar gyfer gofal profedigaeth sydd wedi'u defnyddio i ategu'r
Llwybr Gofal Profedigaeth Cenedlaethol yn ardaloedd eraill y DU;
c) gweithio gyda GIG
Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff sy'n dod i gysylltiad â rhieni mewn
profedigaeth yn cael hyfforddiant gofal profedigaeth.
Y
Swyddfa Ystadegau Gwladol - Marwolaeth plant yng Nghymru a Lloegr yn 2018 (Saesneg yn unig)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.09
NDM6801
Lynne Neagle (Torfaen)
David Rees (Aberafan)
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Cefnogwyr
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod y bu 263 o fabanod farw neu'n farw-anedig yng Nghymru yn 2016 ac,
yn aml, na all teuluoedd yr effeithir arnynt gan golli baban gael mynediad
priodol at wasanaethau neu gymorth.
2.
Yn croesawu wythnos ymwybyddiaeth colli babanod, a drefnir gan gynghrair o fwy
na 60 o elusennau ledled y DU ac a gynhelir rhwng 9 a 15 Hydref 2018 i roi
cyfle i godi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd gofal profedigaeth rhagorol i
bob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl marwolaeth baban.
3.
Yn cydnabod bod wythnos ymwybyddiaeth colli babanod hefyd yn rhoi cyfle pwysig
i rieni mewn profedigaeth, a'u teuluoedd a'u ffrindiau, uno a choffáu bywydau
eu babanod.
4.
Yn cydnabod y dylai pob rhiant mewn profedigaeth gael yr un safon uchel o ofal
pan fydd baban yn marw, ac er na all gofal da ddileu poen a galar rhieni, gall
helpu rhieni drwy'r amser trychinebus hwn.
5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella'r gofal y mae rhieni yn ei
dderbyn ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban drwy:
a)
ymrwymo i ddarparu gwell gofal profedigaeth sydd ar gael i bob rhiant ar ôl
colli baban yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl marwolaeth baban, a gwella'r gofal
hwnnw;
b)
mabwysiadu set graidd o safonau ar gyfer gofal profedigaeth sydd wedi'u
defnyddio i ategu'r Llwybr Gofal Profedigaeth Cenedlaethol yn ardaloedd eraill
y DU;
c)
gweithio gyda GIG Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff sy'n dod i gysylltiad â
rhieni mewn profedigaeth yn cael hyfforddiant gofal profedigaeth.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.