Cyfarfodydd
NDM6776 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Safonau Ysgolion
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/09/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 19/09/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 19/09/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Safonau Ysgolion
NDM6776
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith
bod cyrhaeddiad graddau TGAU rhwng A * a C yng Nghymru yn haf 2018 ar y lefel
waethaf ers 2005.
2. Yn mynegi pryder am
safonau ysgol, o ystyried nifer yr ysgolion yng Nghymru a roddwyd mewn mesurau
arbennig gan Estyn a sydd wedi cael hysbysiadau rhybuddio gan awdurdodau addysg
lleol Cymru.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy mewn addysg i fynd i'r afael â'r bwlch ariannu
fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn:
1. Croesawu:
a. bod cyfran y disgyblion sy’n cael y graddau
uchaf, sef A*-A yn TGAU a Safon Uwch wedi cynyddu;
b. bod cynnydd o 50% yn nifer y cofrestriadau ar
gyfer TGAU Gwyddoniaeth, gyda mwy o gofrestriadau yn cael A*-C;
c. bod cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cael
A*-C yn TGAU Mathemateg a Mathemateg-Rhifedd gan gydnabod y canlyniadau gorau a
gafwyd gan blant 16 oed yng nghyfresi Tachwedd a’r haf;
d. bod 76.3 y cant o ddisgyblion a oedd yn
gwneud Safon Uwch wedi cael A*-C, y gyfradd uchaf ers 2009.
2. Nodi:
a. rhybudd Cymwysterau Cymru, o ystyried maint a
chymhlethdod newidiadau diweddar, y dylid bod yn ofalus wrth lunio unrhyw
gasgliadau drwy gymharu canlyniadau TGAU Haf 2018 a chanlyniadau blynyddoedd
blaenorol, ond bod perfformiad cyffredinol yn sefydlog ar y cyfan;
b. bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a
Datblygiad Economaidd wedi nodi cynnydd mewn sawl maes polisi, a nodi bod
ymagwedd Cymru wedi newid o fod yn un dameidiog a byrdymor i fod yn un sy’n
cael ei llywio gan weledigaeth hirdymor; a
c. casgliad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef
bod gwariant ysgolion fesul disgybl wedi cwympo mwy yn Lloegr nac yng Nghymru
dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, a bod hyn, i bob pwrpas, wedi cael gwared ar y
bwlch gwariant fesul disgybl rhwng y ddwy wlad.
Adroddiad
Cymwysterau Cymru – Trosolwg o ganlyniadau TGAU yng Nghymru – Haf 2018
(Saesneg yn unig)
Adroddiad
y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd – 'The Welsh
Education Reform Journey' (Saesneg yn unig)
Adroddiad
y Sefydliad Astudiaethau Cyllid – ‘Comparing
Schools Spending per Pupil in Wales and England’ (Saesneg yn unig)
Gwelliant
2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
at ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod yr holl weithlu addysg yn
derbyn hyfforddiant digonol ac o safon uchel.
Gwelliant
3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
at ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod tal ac amodau’r holl weithlu
addysg yn denu gweithlu gyda lefel uchel o sgiliau.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.41
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6776 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod
cyrhaeddiad graddau TGAU rhwng A * a C yng Nghymru yn haf 2018 ar y lefel
waethaf ers 2005.
2. Yn mynegi pryder am safonau
ysgol, o ystyried nifer yr ysgolion yng Nghymru a roddwyd mewn mesurau arbennig
gan Estyn a sydd wedi cael hysbysiadau rhybuddio gan awdurdodau addysg lleol
Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i fuddsoddi mwy mewn addysg i fynd i'r afael â'r bwlch ariannu fesul disgybl
rhwng Cymru a Lloegr.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
35 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Croesawu:
a. bod cyfran y disgyblion sy’n cael y graddau
uchaf, sef A*-A yn TGAU a Safon Uwch wedi cynyddu;
b. bod cynnydd o 50% yn nifer y cofrestriadau ar
gyfer TGAU Gwyddoniaeth, gyda mwy o gofrestriadau yn cael A*-C;
c. bod cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cael
A*-C yn TGAU Mathemateg a Mathemateg-Rhifedd gan gydnabod y canlyniadau gorau a
gafwyd gan blant 16 oed yng nghyfresi Tachwedd a’r haf;
d. bod 76.3 y cant o ddisgyblion a oedd yn
gwneud Safon Uwch wedi cael A*-C, y gyfradd uchaf ers 2009.
2.
Nodi:
a. rhybudd Cymwysterau Cymru, o ystyried maint a
chymhlethdod newidiadau diweddar, y dylid bod yn ofalus wrth lunio unrhyw
gasgliadau drwy gymharu canlyniadau TGAU Haf 2018 a chanlyniadau blynyddoedd
blaenorol, ond bod perfformiad cyffredinol yn sefydlog ar y cyfan;
b. bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a
Datblygiad Economaidd wedi nodi cynnydd mewn sawl maes polisi, a nodi bod
ymagwedd Cymru wedi newid o fod yn un dameidiog a byrdymor i fod yn un sy’n
cael ei llywio gan weledigaeth hirdymor; a
c. casgliad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef
bod gwariant ysgolion fesul disgybl wedi cwympo mwy yn Lloegr nac yng Nghymru
dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, a bod hyn, i bob pwrpas, wedi cael gwared ar y
bwlch gwariant fesul disgybl rhwng y ddwy wlad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
23 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd at
ddiwedd y cynnig:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
2 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg
i sicrhau bod tal ac amodau’r holl weithlu addysg yn denu gweithlu gyda lefel
uchel o sgiliau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
1 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Croesawu:
a. bod cyfran y
disgyblion sy’n cael y graddau uchaf, sef A*-A yn TGAU a Safon Uwch wedi cynyddu;
b. bod cynnydd o
50% yn nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth, gyda mwy o
gofrestriadau yn cael A*-C;
c. bod cynnydd yn
nifer y disgyblion sy’n cael A*-C yn TGAU Mathemateg a Mathemateg-Rhifedd gan
gydnabod y canlyniadau gorau a gafwyd gan blant 16 oed yng nghyfresi Tachwedd
a’r haf;
d. bod 76.3 y cant
o ddisgyblion a oedd yn gwneud Safon Uwch wedi cael A*-C, y gyfradd uchaf ers
2009.
2. Nodi:
a. rhybudd
Cymwysterau Cymru, o ystyried maint a chymhlethdod newidiadau diweddar, y dylid
bod yn ofalus wrth lunio unrhyw gasgliadau drwy gymharu canlyniadau TGAU Haf
2018 a chanlyniadau blynyddoedd blaenorol, ond bod perfformiad cyffredinol yn
sefydlog ar y cyfan;
b. bod y Sefydliad
ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi nodi cynnydd mewn sawl
maes polisi, a nodi bod ymagwedd Cymru wedi newid o fod yn un dameidiog a
byrdymor i fod yn un sy’n cael ei llywio gan weledigaeth hirdymor; a
c. casgliad y
Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef bod gwariant ysgolion fesul disgybl wedi
cwympo mwy yn Lloegr nac yng Nghymru dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, a bod hyn,
i bob pwrpas, wedi cael gwared ar y bwlch gwariant fesul disgybl rhwng y ddwy
wlad.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn
addysg i sicrhau bod yr holl weithlu addysg yn derbyn hyfforddiant digonol ac o
safon uchel.
4.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn
addysg i sicrhau bod tal ac amodau’r holl weithlu addysg yn denu gweithlu gyda
lefel uchel o sgiliau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
16 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.