Cyfarfodydd

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2019-20

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/02/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Trafod Cyllideb Atodol Comisiwn y Cynulliad 2019-20

Papur 1 - Llythyr gan y Comisiynydd a Memorandwm Esboniadol Cyllideb Atodol 2019-20

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Nododd y Pwyllgor Gyllideb Atodol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20.

 


Cyfarfod: 03/07/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20: Cynllun Diswyddo Gwirfoddol

Papur 3 - Llythyr gan Gomisiwn y Cynulliad - Cynllun Diswyddo Gwirfoddol - 19 Mehefin 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd ynghylch y Cynllun Diswyddo Gwirfoddol.

 


Cyfarfod: 09/05/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Comisiwn y Cynulliad - Diweddariad ar y Cynllun Ymadael Gwirfoddol a Llacio Cap y Sefydliad

Papur 5 – Llythyr gan y Comisiwn y Cynulliad - Diweddariad ar y Cynllun Ymadael Gwirfoddol a Llacio Cap y Sefydliad - 3 Mai 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gomisiwn y Cynulliad ynghylch y diweddariad ar y cynllun ymadael gwirfoddol a llacio cap y sefydliad.

 


Cyfarfod: 20/03/2019 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 5.1)

Papur 5a - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru – ymatebion gan y Llywodraeth

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 14

Cyfarfod: 20/03/2019 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 5.)

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru – ymatebion gan y Llywodraeth


Cyfarfod: 29/11/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN2 - Llythyr gan Gomisiwn y Cynulliad: Cynllun Ymadael Gwirfoddol 2018 - 20 Tachwedd 2018

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 17/10/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2019-20: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 2 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau.

 


Cyfarfod: 03/10/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20: Sesiwn dystiolaeth

Suzy Davies AC, Comisiynydd ar gyfer y Gyllideb a Llywodraethu

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid

 

Papur 1 – Cyllideb Ddrafft Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2019-20

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Suzy Davies AC, sef y Comisiynydd dros y Gyllideb a Llywodraethiant; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr Cyllid ynghylch Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20.

 

3.2 Cytunodd Comisiwn y Cynulliad i ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu:

·         rhagor o fanylion ar brosiectau penodol sy'n flaenoriaeth ar gyfer 2019-20; a

·         ffigurau ar gyfer absenoldebau salwch ers mis Mawrth 2018.

 

 


Cyfarfod: 03/10/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.