Cyfarfodydd

Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/03/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (12 Chwefror 2021)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/09/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (28 Awst 2020)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 07/10/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-24-19 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 30/09/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-23-19 Papur 3 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4. Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i edrych arno eto yn y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 08/07/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (25 Mehefin 2019)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/07/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-19-19 Papur 2 – Adroddiad Drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar ychydig o fân ddiwygiadau a gaiff eu dosbarthu y tu allan i'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 24/06/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-17-19 Papur 2 – Adroddiad Drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a nodwyd y byddai fersiwn ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor ar 8 Gorffennaf i'w thrafod ymhellach.

 


Cyfarfod: 29/04/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 29/04/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (Mawrth 2019)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 29/04/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio

PAC(5)-11-19 Papur 2 – Papur Llywodraeth Cymru

 

Dr Andrew Goodall – Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru

Simon Dean - Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru

Judith Paget - Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cadeirydd Bwrdd Gofal Sylfaenol Gwladol ac Arweinydd Strategol Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, a Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel rhan o'r ymchwiliad i wasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau.

4.2 Cytunodd Dr Goodall i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am:

·         gwerthusiad y Bwrdd Gofal Sylfaenol o'r trefniadau a wnaed gan fyrddau iechyd i sicrhau bod y galw yn cael ei fodloni dros fisoedd y gaeaf

·         y dangosyddion ansawdd sy'n cael eu monitro ar hyn o bryd

 

 


Cyfarfod: 25/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Trafod materion allweddol

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y meysydd yr oeddent am eu cynnwys yn y papur briffio ar gyfer y sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill.

 


Cyfarfod: 18/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr aelodau'r dystiolaeth a gafwyd.

 


Cyfarfod: 18/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Sesiwn Dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

PAC(5)-08-19 Papur 4 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

Steve Curry – Prif Swyddog Gweithredu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Lisa Dunsford – Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer y Bwrdd Clinigol Gofal Cychwynnol, Cymunedol a Chanolraddol (PCIC), Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Dr Sherard Lemaitre – Meddyg Teulu ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro y tu allan i oriau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan Steve Curry, y Prif Swyddog Gweithredu; Lisa Dunsford, Cyfarwyddwr Gweithrediadau'r Bwrdd Clinigol Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolraddol, a Dr Sherard Lemaitre, Meddyg Teulu o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, fel rhan o'r ymchwiliad i wasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau.

3.2 Cytunodd Steve Curry i anfon rhagor o wybodaeth am y materion a ganlyn:

·         Nifer yr achosion lle mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi talu cyfraddau uwch i feddygon teulu wneud sifftiau y tu allan i oriau ar fyr rybudd yn ystod y deuddeg mis diwethaf

·         Nifer yr hawliadau iawndal a dalwyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon a oedd yn ymwneud â chwynion yn erbyn y gwasanaeth y tu allan i oriau

 

 


Cyfarfod: 18/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-08-19 Papur 1 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

PAC(5)-08-19 Papur 2 – Ymateb gan Goleg Brenhinol Meddygon Teulu

PAC(5)-08-19 Papur 3 – Ymateb gan Y Gymdeithas Feddygol Brydeinig

 

Joe Teape – Dirprwy Brif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Richard Archer – Meddyg Teulu y tu allan i oriau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan Joe Teape, y Dirprwy Brif Weithredwr a Richard Archer, Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fel rhan o'r ymchwiliad i wasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau.

 


Cyfarfod: 04/02/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Adborth ar waith ymgysylltu'r Aelodau gyda gwasanaethau y tu allan i oriau

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau eu hymweliadau diweddar â gwasanaethau y tu allan i oriau.

 


Cyfarfod: 03/12/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: trafod y papur cwmpasu

PAC(5)-32-18 Papur 6 – Papur cwmpasu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y papur cwmpasu, gan gytuno i wneud gwaith ymgysylltu yn unol â'r hyn a fanylwyd yn y papur ar 21 Ionawr 2019.

 


Cyfarfod: 01/10/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-25-18 Papur 3 – adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-25-18 Papur 4 – ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (1 Awst 2018)

PAC(5)-25-18 Papur 5 – ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (14 Awst 2018)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol friff i'r Aelodau ar yr adroddiad gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau.

8.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i'r mater hwn.