Cyfarfodydd

P-04-340 Creu ardal fenter yng Nghasnewydd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/02/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-340 Creu ardal fenter yng Nghasnewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth a dogfennau yn ymwneud â’r ddeiseb hon.

 

Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw’r deisebydd at ddatganiadau’r Gweinidog ar y mater hwn ac i’w gynghori bod y Pwyllgor, yn sgîl datganiadau clir y Gweinidog ar y mater hwn, yn bwriadu cau’r ddeiseb oni bai bod y deisebydd o’r farn bod rhywbeth arall y gall y Pwyllgor wneud yn ei chylch.

 


Cyfarfod: 01/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-340 Creu ardal fenter yng Nghasnewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r Aelodau Etholaeth a’r Aelodau Rhanbarthol perthnasol ystyried codi’r mater yn y Cyfarfod Llawn.

 

Y Clerc i roi manylion i’r Pwyllgor ynghylch ymateb y Gweinidog i’r pwynt a godwyd yn ddiweddar gan Eluned Parrott ar y mater hwn yn y Cyfarfod Llawn.