Cyfarfodydd
NDM6764 Dadl: Adolygiad o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 10/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 10/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 10/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Adolygiad o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy
NDM6764 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru; ac
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud hyn drwy ei tharged uchelgeisiol o adeiladu
20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon – mae cynnydd da yn
cael ei wneud i gyrraedd y targed hwnnw.
2.
Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn gosod sylfaen ar gyfer adeiladu mwy o dai
fforddiadwy yn y dyfodol, mewn ymateb i ystod o ofynion o ran tai.
3.
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i greu amodau sy’n ysgogi arloesedd a
gwelliannau o ran dyluniad, ansawdd ac effeithlonrwydd ynni’r tai a ddarperir.
4.
Yn nodi cwmpas yr adolygiad tai fforddiadwy a’r ffrydiau gwaith y cytunwyd
arnynt.
Cafodd
cwmpas yr Adolygiad Tai Fforddiadwy a’r ffrydiau gwaith y cytunwyd arnynt eu
hanfon mewn e-bost at yr Aelodau ar 3 Gorffennaf 2018.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru.
2.
Yn nodi cwmpas a ffrydiau gwaith cytunedig yr adolygiad o dai fforddiadwy.
3.
Yn cydnabod cadernid amcanestyniad amgen y diweddar Athro Holman, 'Future Need
and Demand for Housing in Wales', fel sail ar gyfer rhagweld yr angen am dai.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i efelychu uchelgais cymdeithasau tai Cymru sy'n
anelu at ddyblu'r gyfradd bresennol o dai newydd a gaiff eu hadeiladu er mwyn
cyflawni 75,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yng Nghymru erbyn 2036.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannnau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2
- Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Ym
mhwynt 1, dileu "ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud hyn drwy ei
tharged uchelgeisiol o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y
Llywodraeth hon – mae cynnydd da yn cael ei wneud i gyrraedd y targed
hwnnw" a rhoi "ac yn gresynu bod llai na 3,000 o gartrefi fforddiadwy
ychwanegol wedi'u darparu ym mhob un o'r chwe blynedd ddiwethaf y mae ystadegau
ar gael ar eu cyfer" yn ei le.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3
- Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu
'uchelgeisiol' o bwynt 1.
Gwelliant 4
- Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu
popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn
nodi bod cyngor a dadansoddiad annibynnol wedi dangos na fydd 20,000 o gartrefi
fforddiadwy dros dymor y Cynulliad hwn yn bodloni'r anghenion presennol na'r
anghenion yn y dyfodol.
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gael cynllun tymor hir ar gyfer cynyddu nifer y tai
fforddiadwy i ddiwallu anghenion cymunedau lleol ledled Cymru, gan gydnabod y
gellir cyflawni hyn mewn ffyrdd gwahanol.
Yn
galw ar yr holl dai cymdeithasol a chyngor newydd, lle bo'n bosibl, i gael
paneli solar wedi'u gosod i sicrhau bod tenantiaid yn gallu elwa ar filiau ynni
is.
Yn
gresynu bod nifer y cartrefi gwag yng Nghymru wedi cynyddu dros y blynyddoedd
diwethaf, er gwaethaf cynllun Troi Tai'n Gartrefi Llywodraeth Cymru.
Yn
nodi cwmpas a ffrydiau gwaith cytunedig yr adolygiad o dai fforddiadwy.
Yn
galw ar yr adolygiad o dai fforddiadwy i ystyried y cyd-destun ehangach o ran
mynediad i wasanaethau cyhoeddus mewn ystadau newydd, gan nodi y gall mynediad
gwael i wasanaethau cyhoeddus arwain at gynnydd sylweddol yn y costau y mae
pobl ar incwm isel sy'n byw mewn ystadau o'r fath yn eu hwynebu.
Yn
galw ar yr adolygiad i gynnwys grwpiau tenantiaid a'r rhai sydd yn y sector
rhentu preifat, fel y gallant lywio'r dirwedd tai cymdeithasol a thai rhent yn
y dyfodol yng Nghymru.
[Os derbynnir gwelliant 4, caiff gwelliant 5 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 5
- Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai modiwlar er mwyn
darparu unedau tai fforddiadwy ychwanegol yn gyflym.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.47
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6764 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru; ac
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud hyn drwy ei tharged uchelgeisiol o adeiladu
20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon – mae cynnydd da yn
cael ei wneud i gyrraedd y targed hwnnw.
2.
Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn gosod sylfaen ar gyfer adeiladu mwy o dai
fforddiadwy yn y dyfodol, mewn ymateb i ystod o ofynion o ran tai.
3.
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i greu amodau sy’n ysgogi arloesedd a
gwelliannau o ran dyluniad, ansawdd ac effeithlonrwydd ynni’r tai a ddarperir.
4.
Yn nodi cwmpas yr adolygiad tai fforddiadwy a’r ffrydiau gwaith y cytunwyd
arnynt.
Cafodd
cwmpas yr Adolygiad Tai Fforddiadwy a’r ffrydiau gwaith y cytunwyd arnynt eu
hanfon mewn e-bost at yr Aelodau ar 3 Gorffennaf 2018.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru.
2.
Yn nodi cwmpas a ffrydiau gwaith cytunedig yr adolygiad o dai fforddiadwy.
3.
Yn cydnabod cadernid amcanestyniad amgen y diweddar Athro Holman, 'Future Need
and Demand for Housing in Wales', fel sail ar gyfer rhagweld yr angen am dai.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i efelychu uchelgais cymdeithasau tai Cymru sy'n
anelu at ddyblu'r gyfradd bresennol o dai newydd a gaiff eu hadeiladu er mwyn
cyflawni 75,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yng Nghymru erbyn 2036.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannnau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol]
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
2 |
39 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Caroline Jones (Gorllewin De
Cymru)
Ym
mhwynt 1, dileu "ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud hyn drwy ei tharged
uchelgeisiol o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth
hon – mae cynnydd da yn cael ei wneud i gyrraedd y targed hwnnw" a rhoi
"ac yn gresynu bod llai na 3,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol wedi'u
darparu ym mhob un o'r chwe blynedd ddiwethaf y mae ystadegau ar gael ar eu
cyfer" yn ei le.
[Os derbynnir
gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
38 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu
'uchelgeisiol' o bwynt 1.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
22 |
2 |
28 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a
rhoi yn ei le:
Yn nodi bod cyngor a
dadansoddiad annibynnol wedi dangos na fydd 20,000 o gartrefi fforddiadwy dros
dymor y Cynulliad hwn yn bodloni'r anghenion presennol na'r anghenion yn y
dyfodol.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gael cynllun tymor hir ar gyfer cynyddu nifer y tai fforddiadwy i ddiwallu
anghenion cymunedau lleol ledled Cymru, gan gydnabod y gellir cyflawni hyn mewn
ffyrdd gwahanol.
Yn galw ar yr holl dai
cymdeithasol a chyngor newydd, lle bo'n bosibl, i gael paneli solar wedi'u
gosod i sicrhau bod tenantiaid yn gallu elwa ar filiau ynni is.
Yn gresynu bod nifer y cartrefi
gwag yng Nghymru wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf cynllun
Troi Tai'n Gartrefi Llywodraeth Cymru.
Yn nodi cwmpas a ffrydiau
gwaith cytunedig yr adolygiad o dai fforddiadwy.
Yn galw ar yr adolygiad o dai fforddiadwy
i ystyried y cyd-destun ehangach o ran mynediad i wasanaethau cyhoeddus mewn
ystadau newydd, gan nodi y gall mynediad gwael i wasanaethau cyhoeddus arwain
at gynnydd sylweddol yn y costau y mae pobl ar incwm isel sy'n byw mewn ystadau
o'r fath yn eu hwynebu.
Yn galw ar yr adolygiad i
gynnwys grwpiau tenantiaid a'r rhai sydd yn y sector rhentu preifat, fel y
gallant lywio'r dirwedd tai cymdeithasol a thai rhent yn y dyfodol yng Nghymru.
[Os derbynnir gwelliant 4, caiff gwelliant 5 ei ddad-ddethol]
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
22 |
2 |
29 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Caroline Jones (Gorllewin De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl
pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gyflymu'r gwaith o adeiladu tai modiwlar er mwyn darparu unedau tai fforddiadwy
ychwanegol yn gyflym.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
39 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM6764 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru; ac
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud hyn drwy ei tharged uchelgeisiol o adeiladu
20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon – mae cynnydd da yn
cael ei wneud i gyrraedd y targed hwnnw.
2.
Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn gosod sylfaen ar gyfer adeiladu mwy o dai
fforddiadwy yn y dyfodol, mewn ymateb i ystod o ofynion o ran tai.
3.
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i greu amodau sy’n ysgogi arloesedd a
gwelliannau o ran dyluniad, ansawdd ac effeithlonrwydd ynni’r tai a ddarperir.
4.
Yn nodi cwmpas yr adolygiad tai fforddiadwy a’r ffrydiau gwaith y cytunwyd
arnynt.
Cafodd
cwmpas yr Adolygiad Tai Fforddiadwy a’r ffrydiau gwaith y cytunwyd arnynt eu
hanfon mewn e-bost at yr Aelodau ar 3 Gorffennaf 2018.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
29 |
12 |
12 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.