Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Senedd y DU ynghylch Addysg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/11/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Senedd y DU ynghylch Addysg

 

NDM4835 Leighton Andrews (Rhondda)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4731 ac NNDM4660, y darpariaethau hynny y daethpwyd â hwy gerbron yn y Bil Addysg sy’n ymwneud â phwerau i osod cosb ariannol, adennill costau, derbyn apelau, rhoi cyfarwyddiadau a thynnu cydnabyddiad yn ôl oddi ar gyrff sy'n cael eu cydnabod, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Dogfennau Ategol
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

 

I weld copi o Fil Senedd y DU ynghylch Addysg, ewch i:

http://services.parliament.uk/bills/2010-11/education.html

 

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau

Penderfyniad:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

11

0

56

 

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 31/10/2011 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

4. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Senedd y DU ynghylch Addysg

CLA(4)-09-11(p1) – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar gyfer Bil Senedd y DU ynghylch Addysg

CLA(4)-09-11(p2) – Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

CLA(4)-09-11(p3) – Papur briffio ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Senedd y DU ynghylch Addysg (Saesneg Yn unig)

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Senedd y DU ynghylch Addysg

NNDM4731 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NNDM4660, y darpariaethau ychwanegol hynny a gyflwynwyd i’r Bil Addysg ynghylch ffioedd am fwrdd a llety mewn Academïau byrddio, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mehefin 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Gellir cael mynediad i NNDM4660 drwy’r linc a ganlyn:

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-third-assembly/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-motions.htm?act=dis&id=209521&ds=2/2011

I weld copi o’r Bil Addysg i:

http://services.parliament.uk/bills/2010-11/education.html

 

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 25/05/2011 - Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: y Mesur Seneddol ynghylch Addysg