Cyfarfodydd

Y Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/07/2018 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Y Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru

Jason Thomas, Cyfarwyddwr, Diwylliant, Chwaraeon a Twristiaeth

Mari Stevens, Dirprwy Gyfarwyddwr, Marchnata

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â Strategaeth Llywodraeth Cymru (Partneriaeth ar gyfer Twf), cefnogaeth i fusnesau bach ac effaith Brexit, gan gynnwys tegwch o ran symudiad pobl.

 

2.2 Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am:

 

·         pryd y bydd canlyniadau'r astudiaeth ddichonoldeb i ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin yn cael eu cyhoeddi a beth fydd y camau nesaf;

·         unrhyw ddiweddariad i'r cynllun gweithredu sy'n sail i'r Bartneriaeth ar gyfer Twf, sef strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer twristiaeth, am weddill y strategaeth; ac

·         ymchwil i broffil ymwelwyr safleoedd Cadw.