Cyfarfodydd

Gyllideb Atodol Cyntaf Llywodraeth Cymru 2018-19

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/09/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN2 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2018-19 - 10 Awst 2018

Dogfennau ategol:

Cyfarfod: 10/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2018-19

NDM6748 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 19 Mehefin 2018.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

i. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

ii. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

iii. cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

iv. cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

v. cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

vi. manylion unrhyw ddiwygiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y’u nodir yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfen Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.19

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

23

0

53

Derbyniwyd y cynnig.

Cyfarfod: 05/07/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

1 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2018-19: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 1 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1        Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad ar ôl gwneud rhai mân newidiadau.

1.2        Roedd Mark Reckless AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon.

Cyfarfod: 27/06/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2018-19: sesiwn dystiolaeth

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Matthew Denham Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli Ariannol

Sharon Bounds, Pennaeth Rheoli Cyllidebau

Papur 1 - Cynnig y Gyllideb Atodol Gyntaf 2018-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid;  Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheoli Ariannol; a Sharon Bounds, Pennaeth Rheoli Cyllidebau Llywodraeth Cymru ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2018-19.

Cyfarfod: 27/06/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2018-19: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.