Cyfarfodydd
NDM6733 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 20/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 20/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Ansawdd Aer
NDM6733
Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David
Melding (Canol De Cymru)
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) mai 21 Mehefin yw diwrnod aer glân;
b) effaith niweidiol llygredd aer ar ein hiechyd - mae
ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod llygredd aer yn achosi 2,000 o
farwolaethau y flwyddyn, sef 6 y cant o gyfanswm y marwolaethau yng Nghymru; a
c) bod yn rhaid delio â NO2 a mater gronynnol er mwyn
goresgyn llygredd aer.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â
llygredd aer parhaus a chyflwyno parthau aer glân i newid ymddygiad a gwella
iechyd dinasyddion.
Cefnogwyr:
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 2, dileu 'a chyflwyno parthau aer glân i newid
ymddygiad a' a rhoi 'drwy gyflwyno dewisiadau amgen ar gyfer trafnidiaeth a
mynd i'r afael â llygredd diwydiannol er mwyn' yn ei le.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.16
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6733
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David Melding (Canol De Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi:
a)
mai 21 Mehefin yw diwrnod aer glân;
b)
effaith niweidiol llygredd aer ar ein hiechyd - mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus
Cymru yn dangos bod llygredd aer yn achosi 2,000 o farwolaethau y flwyddyn, sef
6 y cant o gyfanswm y marwolaethau yng Nghymru; a
c)
bod yn rhaid delio â NO2 a mater gronynnol er mwyn goresgyn llygredd aer.
2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â llygredd aer parhaus a chyflwyno
parthau aer glân i newid ymddygiad a gwella iechyd dinasyddion.
Cefnogwyr:
Lee Waters (Llanelli)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Sian Gwenllian (Arfon)
Vikki Howells (Cwm Cynon)
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
3 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.