Cyfarfodydd
NDM6738 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gofalwyr
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 13/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 13/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 13/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gofalwyr
NDM6738 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi mai 11 - 17 Mehefin yw wythnos y gofalwyr 2018.
2.
Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol sy'n cael ei wneud i gymdeithas yng Nghymru
gan y rolau y mae'r 370,000 amcangyfrifedig o ofalwyr di-dâl o bob oed yn eu
cyflawni.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu polisi Ceidwadwyr Cymru ar grant
dyfodol gofalwyr ifanc, a fyddai'n sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu
cynorthwyo i ymgymryd ag addysg bellach ac uwch amser llawn a chyfleoedd
hyfforddi.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ffigurau yn nodi nifer y gofalwyr y mae
eu hanghenion wedi cael eu hasesu ers cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol
a Llesiant (Cymru) 2014, a faint o'r anghenion hynny a asewyd sydd wedi'u
diwallu.
5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno hawl i gael seibiant ar gyfer gofalwyr
a'r rheini y maent yn gofalu amdanynt.
Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu’r
cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn
cydnabod bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi
hawl i ofalwyr gael asesiad o’u hanghenion eu hunain fel gofalwyr ac i
anghenion cymwys a aseswyd gael eu diwallu gan awdurdodau lleol.
Yn
croesawu blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr a
ffurfio Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr er mwyn sicrhau bod
gweithredu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gwneud gwahaniaeth
gwirioneddol i fywydau gofalwyr yng Nghymru.
[Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu
pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn
credu os caiff y broses o weinyddu lles ei datganoli, y gellir dileu
anghysonderau o fewn y system fudd-daliadau sy’n cael gwared ar gymorth i
ofalwyr sy'n dymuno ymgymryd ag addysg a hyfforddiant.
Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn
nodi bod y farchnad lafur ar gyfer pobl ifanc, gyda'r twf mewn contractau dim
oriau ac interniaethau di-dâl fel rhan o lwybrau gyrfa, yn creu rhwystrau ar
gyfer gofalwyr ifanc sydd am fynd ar drywydd cyflogaeth am dâl a gyrfaoedd ochr
yn ochr â’u cyfrifoldebau gofalu.
Gwelliant 4 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu
pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
cydnabod bod gofalwyr di-dâl o bob oed yn arbed dros £8 biliwn y flwyddyn i'r
GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ac eto mae mwyafrif llethol o
ofalwyr yn teimlo nad yw eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi na'i ddeall.
Gwelliant 5 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i osod cerrig milltir ar gyfer y grŵp cynghori
gofalwyr ifanc a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am ei
gynnydd yn rheolaidd.
Gwelliant 6 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cysondeb ar draws pob rhan o Gymru yn y broses
o gyflwyno'r cerdyn i ofalwyr ifanc, a ddylai gynnwys mynediad i drafnidiaeth
am bris gostyngol.
Gwelliant 7 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i egluro faint o’r swm arfaethedig o £3 miliwn ar
gyfer gofal seibiant i ofalwyr a gaiff ei ddyrannu i ofalwyr ifanc.
Gwelliant 8 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob fferyllfa yn gweithredu'r canllawiau
ar ganiatáu i ofalwyr ifanc gasglu meddyginiaeth bresgripsiwn ar ran y bobl y
maent yn gofalu amdanynt.
Gwelliant 9 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn derbyn hyfforddiant
priodol mewn perthynas â gweinyddu meddyginiaeth i’r bobl y maent yn gofalu
amdanynt.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.18
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6738 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai 11 - 17 Mehefin
yw wythnos y gofalwyr 2018.
2. Yn cydnabod y cyfraniad
hanfodol sy'n cael ei wneud i gymdeithas yng Nghymru gan y rolau y mae'r
370,000 amcangyfrifedig o ofalwyr di-dâl o bob oed yn eu cyflawni.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithredu polisi Ceidwadwyr Cymru ar grant dyfodol gofalwyr ifanc, a fyddai'n
sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu cynorthwyo i ymgymryd ag addysg bellach
ac uwch amser llawn a chyfleoedd hyfforddi.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyhoeddi ffigurau yn nodi nifer y gofalwyr y mae eu hanghenion wedi cael eu
hasesu ers cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a
faint o'r anghenion hynny a aseswyd sydd wedi'u diwallu.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno hawl i gael seibiant ar gyfer gofalwyr a'r rheini y maent yn gofalu
amdanynt.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi hawl i ofalwyr gael asesiad o’u hanghenion eu
hunain fel gofalwyr ac i anghenion cymwys a aseswyd gael eu diwallu gan
awdurdodau lleol.
Yn croesawu blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru
ar gyfer gofalwyr a ffurfio Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr er mwyn
sicrhau bod gweithredu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gwneud
gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
25 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol.
Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol
â hynny:
Yn nodi bod y farchnad lafur ar gyfer pobl ifanc, gyda'r
twf mewn contractau dim oriau ac interniaethau di-dâl fel rhan o lwybrau gyrfa,
yn creu rhwystrau ar gyfer gofalwyr ifanc sydd am fynd ar drywydd cyflogaeth am
dâl a gyrfaoedd ochr yn ochr â’u cyfrifoldebau gofalu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
38 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu
pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
cydnabod bod gofalwyr di-dâl o bob oed yn arbed dros £8 biliwn y flwyddyn i'r
GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ac eto mae mwyafrif llethol o
ofalwyr yn teimlo nad yw eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi na'i ddeall.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
4 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant
5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i osod cerrig milltir ar gyfer y grŵp cynghori
gofalwyr ifanc a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am ei
gynnydd yn rheolaidd.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant
6 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cysondeb ar draws pob rhan o Gymru yn y
broses o gyflwyno'r cerdyn i ofalwyr ifanc, a ddylai gynnwys mynediad i
drafnidiaeth am bris gostyngol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant
7 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i egluro faint o’r swm arfaethedig o £3 miliwn ar gyfer
gofal seibiant i ofalwyr a gaiff ei ddyrannu i ofalwyr ifanc.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant
8 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob fferyllfa yn gweithredu'r canllawiau
ar ganiatáu i ofalwyr ifanc gasglu meddyginiaeth bresgripsiwn ar ran y bobl y
maent yn gofalu amdanynt.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Gwelliant
9 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn derbyn hyfforddiant
priodol mewn perthynas â gweinyddu meddyginiaeth i’r bobl y maent yn gofalu
amdanynt.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 9:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
11 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 9.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn nodi mai 11 - 17 Mehefin
yw wythnos y gofalwyr 2018.
2. Yn cydnabod y cyfraniad
hanfodol sy'n cael ei wneud i gymdeithas yng Nghymru gan y rolau y mae'r
370,000 amcangyfrifedig o ofalwyr di-dâl o bob oed yn eu cyflawni.
3.
Yn cydnabod bod gofalwyr di-dâl o bob oed yn arbed dros £8 biliwn y flwyddyn
i'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ac eto mae mwyafrif llethol o
ofalwyr yn teimlo nad yw eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi na'i ddeall.
4. Yn cydnabod bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi hawl i ofalwyr gael asesiad o’u hanghenion eu
hunain fel gofalwyr ac i anghenion cymwys a aseswyd gael eu diwallu gan
awdurdodau lleol.
5. Yn croesawu blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth
Cymru ar gyfer gofalwyr a ffurfio Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr er
mwyn sicrhau bod gweithredu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn
gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr yng Nghymru.
6.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cysondeb ar draws pob rhan o Gymru yn y
broses o gyflwyno'r cerdyn i ofalwyr ifanc, a ddylai gynnwys mynediad i
drafnidiaeth am bris gostyngol.
7.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob fferyllfa yn gweithredu'r
canllawiau ar ganiatáu i ofalwyr ifanc gasglu meddyginiaeth bresgripsiwn ar ran
y bobl y maent yn gofalu amdanynt.
8.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn derbyn hyfforddiant
priodol mewn perthynas â gweinyddu meddyginiaeth i’r bobl y maent yn gofalu
amdanynt.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
11 |
14 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.