Cyfarfodydd

NDM6725 Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2017-18

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/05/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2017-18

NDM6725 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad 2017/18), a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 15 Mai 2018.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil hawliau pobl hŷn, i godeiddio yng nghyfraith Cymru yr hawliau hynny sy'n berthnasol i bobl hŷn, er mwyn galluogi pobl hŷn i siarad lle nad yw eu hawliau'n cael eu bodloni. 

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ymdrin â phryderon a godwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru na all nifer sylweddol o bobl hŷn yng Nghymru gael mynediad at wasanaethau eiriolaeth annibynnol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.41

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6725 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad 2017/18), a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 15 Mai 2018.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil hawliau pobl hŷn, i godeiddio yng nghyfraith Cymru yr hawliau hynny sy'n berthnasol i bobl hŷn, er mwyn galluogi pobl hŷn i siarad lle nad yw eu hawliau'n cael eu bodloni. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

30

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ymdrin â phryderon a godwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru na all nifer sylweddol o bobl hŷn yng Nghymru gael mynediad at wasanaethau eiriolaeth annibynnol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

1

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM6725 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad 2017/18), a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 15 Mai 2018.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ymdrin â phryderon a godwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru na all nifer sylweddol o bobl hŷn yng Nghymru gael mynediad at wasanaethau eiriolaeth annibynnol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.