Cyfarfodydd
NDM6695 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Tlodi misglwyf a stigma
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 02/05/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 02/05/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 02/05/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Tlodi misglwyf a stigma
NDM6695
Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi gwaith ymchwil gan Plan International UK ar
dlodi misglwyf a stigma, sy'n amcangyfrif bod un ym mhob 10 o ferched yn y DU
wedi methu â fforddio cynhyrchion misglwyf.
2. Yn croesawu'r camau y mae sefydliadau yng Nghymru yn
eu cymryd, gan gynnwys Periods in Poverty, Wings Cymru, The Red Box Project,
Ymddiriedolaeth Trussell ac eraill, i fynd i'r afael â mater hwn.
3. Yn nodi'r adroddiad terfynol gan weithgor craffu
cyngor Rhondda Cynon Taf a sefydlwyd i ddelio â darparu cynhyrchion misglwyf am
ddim mewn ysgolion.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ystyried ymchwil presennol a newydd ar effaith bosibl
tlodi misglwyf a stigma ar ddysgu;
b) ystyried galwadau i wella addysg ar y pwnc a chynnig
cynhyrchion misglwyf am ddim mewn sefydliadau addysg; ac
c) nodi ffyrdd i sicrhau bod cynhyrchion misglwyf ar gael
i fanciau bwyd Cymru.
Plan
International UK - 1 in 10 girls have been unable to afford sanitary wear (Saesneg
yn unig)
Cyngor
Rhondda Cynon Taf – Adroddiad terfynol y gweithgor craffu sy'n ymdrin â darparu
cynhyrchion misglwyf am ddim mewn ysgolion (Saesneg yn unig)
Cefnogwyr:
David
Rees (Aberafan)
Dawn
Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd)
John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd)
Leanne
Wood (Rhondda)
Mick
Antoniw (Pontypridd)
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe)
Sian
Gwenllian (Arfon)
Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Vikki
Howells (Cwm Cynon)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.11
NDM6695
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi gwaith ymchwil gan Plan International UK ar dlodi misglwyf a stigma,
sy'n amcangyfrif bod un ym mhob 10 o ferched yn y DU wedi methu â fforddio
cynhyrchion misglwyf.
2.
Yn croesawu'r camau y mae sefydliadau yng Nghymru yn eu cymryd, gan gynnwys
Periods in Poverty, Wings Cymru, The Red Box Project, Ymddiriedolaeth Trussell
ac eraill, i fynd i'r afael â mater hwn.
3.
Yn nodi'r adroddiad terfynol gan weithgor craffu cyngor Rhondda Cynon Taf a
sefydlwyd i ddelio â darparu cynhyrchion misglwyf am ddim mewn ysgolion.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
ystyried ymchwil presennol a newydd ar effaith bosibl tlodi misglwyf a stigma
ar ddysgu;
b)
ystyried galwadau i wella addysg ar y pwnc a chynnig cynhyrchion misglwyf am
ddim mewn sefydliadau addysg; ac
c)
nodi ffyrdd i sicrhau bod cynhyrchion misglwyf ar gael i fanciau bwyd Cymru.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.