Cyfarfodydd
NDM6702 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 18/04/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 18/04/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 18/04/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Adroddiad ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol
NDM6702
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, dyddiedig
16 Mawrth, mewn perthynas â chynnig NDM6668 y cytunwyd arno gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 28 Chwefror 2018.
2. Yn gresynu at fethiant yr Ysgrifennydd Parhaol i
gydymffurfio â dymuniadau Aelodau'r Cynulliad.
3. Gan weithredu yn unol ag Adran 37(1)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006, yn ei gwneud yn ofynnol bod Ysgrifennydd Parhaol
Llywodraeth Cymru yn paratoi, at ddibenion y Cynulliad, gyda golygiadau priodol
i sicrhau bod tystion yn aros yn anhysbys, adroddiad yr ymchwiliad ynghylch a
oedd unrhyw dystiolaeth y rhannodd Llywodraeth Cymru wybodaeth o flaen llaw heb
ganiatâd mewn perthynas â'r ad-drefnu Gweinidogol diweddar.
ITV
Cymru – Leak inquiry clears First Minister – 25 Ionawr 2018 (Saesneg yn
unig)
Wales
Online – Outside the headlines: Politics updates from Cardiff Bay, Westminster
and our town halls – 25 Ionawr 2018 (Saesneg yn unig)
Llythyr
oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol at bob Aelod Cynulliad – 16 Mawrth 2018
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1. Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.07
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6702 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r llythyr gan yr
Ysgrifennydd Parhaol, dyddiedig 16 Mawrth, mewn perthynas â chynnig NDM6668 y
cytunwyd arno gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 28 Chwefror 2018.
2. Yn gresynu at fethiant yr
Ysgrifennydd Parhaol i gydymffurfio â dymuniadau Aelodau'r Cynulliad.
3. Gan weithredu yn unol ag
Adran 37(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn ei gwneud yn ofynnol bod
Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yn paratoi, at ddibenion y Cynulliad,
gyda golygiadau priodol i sicrhau bod tystion yn aros yn anhysbys, adroddiad yr
ymchwiliad ynghylch a oedd unrhyw dystiolaeth y rhannodd Llywodraeth Cymru
wybodaeth o flaen llaw heb ganiatâd mewn perthynas â'r ad-drefnu Gweinidogol
diweddar.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
1 |
29 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
29 |
1 |
26 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6702 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r llythyr gan yr
Ysgrifennydd Parhaol, dyddiedig 16 Mawrth, mewn perthynas â chynnig NDM6668 y
cytunwyd arno gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 28 Chwefror 2018.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
29 |
1 |
26 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.