Cyfarfodydd
NDM6697 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 18/04/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 10)
- Gweddarllediad ar gyfer 18/04/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 18/04/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig – Ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality
NDM6697
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ac yn croesawu ymgyrch y grŵp Women Against
State Pension Inequality (WASPI) i gael trefniadau pensiwn gwladol trosiannol
teg ar gyfer yr holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth
pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth
y DU i ddarparu'r hyn a ganlyn i'r holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae
newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt:
a) pensiwn pontio sy'n cyflenwi incwm hyd at oedran
pensiwn y wladwriaeth, nad yw'n ddarostyngedig i brawf modd;
b) iawndal am absenoldeb pensiwn pontio i'r rhai sydd
eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth;
c) iawndal i bawb sydd heb ddechrau cael pensiwn pontio
erbyn dyddiad priodol, a fyddai'n ddigon i adennill llog ariannol a gollwyd; a
d) iawndal i fuddiolwyr ystadau'r rhai sydd wedi marw a
heb gael pensiwn pontio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1. Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail-rifo yn
unol â hynny:
Yn gresynu at ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU i roi
terfyn ar yr anghyfiawnder a ddioddefir gan fenywod y mae’r newidiadau i
ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.
Gwelliant
2. Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Ym mhwynt 2, dileu “weithio gyda” a rhoi “annog” yn ei
le.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 18.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6697 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ac yn croesawu
ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality (WASPI) i gael
trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg ar gyfer yr holl fenywod a anwyd yn y
1950au y mae newidiadau i deddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio
arnynt.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu'r hyn a ganlyn i'r holl fenywod a
anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn
effeithio arnynt:
a) pensiwn pontio sy'n cyflenwi
incwm hyd at oedran pensiwn y wladwriaeth, nad yw'n ddarostyngedig i brawf
modd;
b) iawndal am absenoldeb
pensiwn pontio i'r rhai sydd eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth;
c) iawndal i bawb sydd heb
ddechrau cael pensiwn pontio erbyn dyddiad priodol, a fyddai'n ddigon i
adennill llog ariannol a gollwyd; a
d) iawndal i fuddiolwyr yr
ystadau'r rhai sydd wedi marw a heb gael pensiwn pontio.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
14 |
12 |
30 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail-rifo yn
unol â hynny:
Yn gresynu at ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU i roi
terfyn ar yr anghyfiawnder a ddioddefir gan fenywod y mae’r newidiadau i
ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
17 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Ym mhwynt 2, dileu “weithio gyda” a rhoi “annog” yn ei
le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
24 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6697 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU i
roi terfyn ar yr anghyfiawnder a ddioddefir gan fenywod y mae’r newidiadau i
ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.
2. Yn nodi ac yn croesawu
ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality (WASPI) i gael
trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg ar gyfer yr holl fenywod a anwyd yn y
1950au y mae newidiadau i deddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
annog Llywodraeth y DU i ddarparu'r hyn a ganlyn i'r holl fenywod a anwyd yn y
1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio
arnynt:
a) pensiwn pontio sy'n cyflenwi
incwm hyd at oedran pensiwn y wladwriaeth, nad yw'n ddarostyngedig i brawf
modd;
b) iawndal am absenoldeb
pensiwn pontio i'r rhai sydd eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth;
c) iawndal i bawb sydd heb
ddechrau cael pensiwn pontio erbyn dyddiad priodol, a fyddai'n ddigon i
adennill llog ariannol a gollwyd; a
d) iawndal i fuddiolwyr yr
ystadau'r rhai sydd wedi marw a heb gael pensiwn pontio.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
12 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Cyfarfod: 21/03/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 21/03/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 21/03/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig – Gohiriwyd tan 18 Ebrill