Cyfarfodydd

SL(5)193 - Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/02/2021 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gohebiaeth â Llywodraeth Cymru am y Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) drafft

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 17/09/2020 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Sesiwn friffio gan Lywodraeth Cymru ar Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8)

Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr - Isadran y

Alan Jones, Pennaeth Cangen Deddfwriaeth – y Gymraeg

Lowri Jones, Uwch Swyddog Deddfwriaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gwrandawodd yr aelodau ar sesiwn friffio ar ddatblygiad y Rheoliadau, a’r ymgynghori yn eu cylch.

 


Cyfarfod: 20/03/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018

NDM6693 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2018.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.12

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6693 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2018.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

8

51

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 15/03/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018

Cofnodion:

7.1a Nododd y Pwyllgor Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.

 


Cyfarfod: 14/03/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 SL(5)193 - Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018: Ymateb ysgrifenedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd yr Aelodau yr ymatebion.

 


Cyfarfod: 14/03/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

SL(5)193 - Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018: Sesiwn Briffio Technegol: Swyddogion Llywodraeth Cymru

Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gymraeg

Sioned Rees, Pennaeth Uwch-gyfeirio a Chymorth Mesurau Arbennig, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

6.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 


Cyfarfod: 14/03/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 SL(5)193 - Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018: Sesiwn dystiolaeth 2: BMA Cymru / Gwerfyl Wyn Roberts

Dr Phil White, BMA Cymru Wales

Dr Llion Davies, BMA Cymru Wales

Gwerfyl Wyn Roberts, Cyn uwch-ddarlithydd yn y maes iechyd, Prifysgol Bangor

Dr Emyr Humphreys. Ymgynghorydd Gwynegonoleg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 


Cyfarfod: 14/03/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 SL(5)193 - Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018: Sesiwn dystiolaeth 1: Conffederasiwn GIG Cymru

Sue Ball, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Datblygu’r Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mandy Collins, Ysgrifennydd y Bwrdd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Sian-Marie James, Pennaeth y Swyddfa Gorfforaethol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Enfys Williams, Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 


Cyfarfod: 12/03/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

SL(5)193 - Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.