Cyfarfodydd
NDM6665 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 07/03/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 07/03/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 07/03/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cyfiawnder Troseddol
NDM6665
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru)
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David
Melding (Canol De Cymru)
Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith:
a) bod polisïau cyfiawnder troseddol ar gyfer Cymru a Lloegr wedi methu ag
atal y cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu carcharu;
b) nad yw amodau'r carchardai lle y mae gormod o garcharorion o Gymru yn
cael eu cadw yn ffafriol i adsefydlu, fel yr amlygwyd gan adroddiadau arolygu
diweddar ar CEM Abertawe a CEM Lerpwl;
c) bod 47 y cant o garcharorion yn aildroseddu o fewn blwyddyn;
d) nad yw'r rhan fwyaf o argymhellion adroddiad Corston o 2007 am drin
troseddwyr sy'n fenywod wedi'u gweithredu eto, gan anwybyddu'r dystiolaeth bod
carcharu menywod am droseddau cymharol ddibwys yn amharu ar fywydau eu plant
mewn ffordd sylweddol, costus ac na ellir ei chyfiawnhau.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i:
a) treialu modelau amgen o gosbi troseddwyr di-drais o Gymru yng Nghymru er
mwyn osgoi amharu ar y teulu, tai a chysylltiadau cyflogaeth sy'n elfennau
hanfodol i adsefydlu llwyddiannus;
b) hyrwyddo gwaith cydgysylltiedig gwell rhwng gwasanaethau iechyd, tai a chyfiawnder
troseddol i frwydro yn erbyn y cynnydd mewn digartrefedd a salwch meddwl ymysg
pobl sy'n gadael carchar;
c) datblygu polisi cosbi Cymreig penodol ar sail y dystiolaeth o'r hyn sy'n
gweithio;
3. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol yn y pen draw, ynghyd â'r
adnoddau i adsefydlu troseddwyr mewn modd ataliol ac adferol, gan roi terfyn ar
y drws troi rhwng y carchar ac ail-droseddu.
Adroddiad y
Swyddfa Gartref - The Corston Report (Saesneg yn unig)
Women in Prison
- The Corston Report 10 Years On (Saesneg yn unig)
Cefnogwyr
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.09
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan
y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6665
Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd)
Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Dai Lloyd
(Gorllewin De Cymru)
David Melding
(Canol De Cymru)
Julie Morgan
(Gogledd Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith:
a) bod polisïau cyfiawnder troseddol ar gyfer Cymru a
Lloegr wedi methu ag atal y cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu carcharu;
b) nad yw amodau'r carchardai lle y mae gormod o
garcharorion o Gymru yn cael eu cadw yn ffafriol i adsefydlu, fel yr amlygwyd
gan adroddiadau arolygu diweddar ar CEM Abertawe a CEM Lerpwl;
c) bod 47 y cant o garcharorion yn aildroseddu o fewn
blwyddyn;
d) nad yw'r rhan fwyaf o argymhellion adroddiad Corston o
2007 am drin troseddwyr sy'n fenywod wedi'u gweithredu eto, gan anwybyddu'r
dystiolaeth bod carcharu menywod am droseddau cymharol ddibwys yn amharu ar
fywydau eu plant mewn ffordd sylweddol, costus ac na ellir ei chyfiawnhau.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i:
a) treialu modelau amgen o gosbi troseddwyr di-drais o
Gymru yng Nghymru er mwyn osgoi amharu ar y teulu, tai a chysylltiadau
cyflogaeth sy'n elfennau hanfodol i adsefydlu llwyddiannus;
b) hyrwyddo gwaith cydgysylltiedig gwell rhwng
gwasanaethau iechyd, tai a chyfiawnder troseddol i frwydro yn erbyn y cynnydd
mewn digartrefedd a salwch meddwl ymysg pobl sy'n gadael carchar;
c) datblygu polisi cosbi Cymreig penodol ar sail y
dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio;
3. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol yn y pen
draw, ynghyd â'r adnoddau i adsefydlu troseddwyr mewn modd ataliol ac adferol,
gan roi terfyn ar y drws troi rhwng y carchar ac ail-droseddu.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
4 |
8 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig.