Cyfarfodydd

NDM6537 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/02/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Bil chwarae cynhwysol

NDM6537 Vikki Howells (Cwm Cynon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil chwarae cynhwysol.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gwella cyfleoedd chwarae cynhwysol drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol a fyddai'n golygu bod rhaid iddynt ddarparu offer chwarae sy'n diwallu anghenion plant ag anableddau.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.37

NDM6537 Vikki Howells (Cwm Cynon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil chwarae cynhwysol.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gwella cyfleoedd chwarae cynhwysol drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol a fyddai'n golygu bod rhaid iddynt ddarparu offer chwarae sy'n diwallu anghenion plant ag anableddau.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.