Cyfarfodydd

Y Diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/01/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gohebiaeth at y Cadeirydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch cyhoeddi ei adroddiad: Paratoi ar gyfer Brexit - Adrodd ar barodrwydd y sector bwyd a diod yng Nghymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/07/2018 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 PTN 1 - Ymateb gan y Prif Weinidog yn dilyn y cyfarfod ar 16 Chwefror 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 16/02/2018 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Y Diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru

Tim Render, Cyfarwyddwr Tir, Natur a Fwyd

David Morris, Dirprwy Bennaeth yr Is-adran Fwyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog mewn perthynas â'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, yn enwedig o ran effaith Brexit ac effaith trefniadau masnachu posibl yn y dyfodol.

 

2.2 Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch y materion a ganlyn:

 

·         pa un a fyddai'n bosibl i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth pellach i gwmnïau sydd am fod yn rhan o deithiau masnach tramor sy'n cael eu harwain gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys pa un a fyddai'n bosibl trefnu bod y daith gyntaf yn rhad ac am ddim; a

·         sut y gellid cefnogi'r broses o gyflenwi cynhyrchion Cymreig i fanwerthwyr mawr.

 

2.3 Cytunodd y Prif Weinidog y byddai'n rhoi ystyriaeth bellach i'r syniad o ddynodi bwyd a diod fel thema dwristiaeth am flwyddyn yn y dyfodol.