Cyfarfodydd

Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/10/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011: Trafodaeth yr Aelodau ar yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-25-13 (papur 3)

PAC(4)-25-13 (papur 4)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Mynegodd yr Aelodau siom ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru, ond teimla'r Aelodau y byddai'n fuddiol rhannu'r ohebiaeth honno gyda'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

 


Cyfarfod: 06/06/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar weithredu'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'

PAC(4) 16-13 – Papur 2 – Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus’

Dr June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru; Piers Bisson, Pennaeth yr Is-adran Diwygio'r Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru; ac Abigail Harris, Cyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi, yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tystion.

 

Camau gweithredu:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Ffigurau sy'n dangos sut mae sgiliau rheoli cyllid yn y gwasanaeth cyhoeddus wedi gwella;

·         Eglurhad o gostau a buddion y gwaith a wnaed ar y cyd gan fentrau megis y Grŵp Cyflawni Diwygio; Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus; Cyngor Partneriaeth; Academi; a'r Comisiwn newydd ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus;

·         Nodyn ynghylch y defnydd o systemau darbodus o fewn Llywodraeth Cymru;

·         Enghreifftiau o achosion lle mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido ymgynghorwyr i adolygu mentrau'r system ddarbodus sydd heb gael eu gweithredu;

·         Rhagor o fanylion ynghylch sut y bydd arfer da yn y sectorau iechyd a chymdeithasol yn cael ei rhannu ar draws awdurdodau lleol.

 

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog yn nodi'r pryderon a gododd y Pwyllgor yn y cyfarfod hwn.

 


Cyfarfod: 02/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymateb Llywodraeth Cymru i 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'

PAC(4) 19-12 – Papur 4 – Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Mark Jeffs o Swyddfa Archwilio Cymru, i’r cyfarfod.

 

3.2 Bu Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cynghori’r Pwyllgor ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Darlun o Wasnaethau Cyhoeddus.


Cyfarfod: 24/04/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Ystyried yr adroddiad drafft, 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad, ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011’, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan.


Cyfarfod: 20/03/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Ystyried adroddiad drafft ar 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad drafft ar ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus’.


Cyfarfod: 06/03/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ystyried yr adroddiad drafft: Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei adroddiad drafft: Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus.


Cyfarfod: 21/02/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Darlun o wasanaethau cyhoeddus - tystiolaeth gan Gonffederasiwn y GIG

PAC(4) 03-12 – Papur 1 – Conffederasiwn y GIG

 

Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru

Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, a Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

 

2.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

Pwyntiau gweithredu:

 

Cytunodd Conffederasiwn GIG Cymru i ddarparu’r hyn a ganlyn:

 

·         Manylion am yr arian ychwanegol a ryddhawyd o gyllideb ddiweddar Llywodraeth Cymru a ddyrennir i Fyrddau Iechyd Lleol dros y tair blynedd nesaf.

·         Rhagor o wybodaeth am lle y gwnaed arbedion ariannol arwyddocaol a lle y llwyddwyd i leihau costau’n sylweddol gan fyrddau iechyd unigol. 


Cyfarfod: 17/01/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ystyried y dystiolaeth a gafwyd ynghylch yr adroddiad 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod sut i ymdrin ag adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru, sef ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus’.


Cyfarfod: 06/12/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2.)

Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011 – Y prif heriau sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus Cymru: tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Vanessa Phillips, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 


Cyfarfod: 22/11/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011 - Yr Heriau Ariannol Allweddol a Wynebir gan Wasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

Papur: PAC(4) 07-11 – Papur 1 – Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru: Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011

 

Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru

June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Michael Hearty, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodreath Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Estynnodd y Pwyllgor groeso i’r Fonesig Gillian Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol; June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau; Michael Hearty, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad; a Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

3.2 Estynnodd y Pwyllgor groeso hefyd i Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Mark Jeffs, Swyddfa Archwilio Cymru. 

 

3.3 Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i’r tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Proffil o’r arbedion y bydd adrannau Llywodraeth Cymru yn eu gwneud dros y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

·         Rhagor o fanylion am gyllid ychwanegol a oedd ar gael i’r gwasanaeth iechyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

·         Sut y defnyddiwyd methodoleg ddarbodus i ddatblygu Cyswllt Ffermio, gan gynnwys dulliau o leihau’r amser y mae’n rhaid i gwsmeriaid aros.

·         Atebion i’r cwestiynau na chyrhaeddodd y Pwyllgor yn ystod y cyfarfod.


Cyfarfod: 18/10/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011'

PAC(4)-06-11 – Papur 1 – Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus – Y prif heriau sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor ragor o wybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011 – Y prif heriau sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus Cymru’.