Cyfarfodydd

NDM6623 Dadl ar y Setliad Llywodraeth Leol 2018-19

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2018-19

NDM6623 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2018-2019 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Rhagfyr 2017.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.07

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6623 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2018-2019 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Rhagfyr 2017.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

8

13

54

Derbyniwyd y cynnig.