Cyfarfodydd
NDM6576 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 17/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 17/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 17/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
NDM6576
Steffan
Lewis (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Parhad i Gymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai cadarnhau bod yr
holl bynciau a oedd yn rhan o gyfraith yr UE yn parhau o fewn cyfraith Cymru
lle bônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol
â Deddf Cymru 2017.
Cefnogwyr:
Adam
Price (Dwyrain Casnewydd a Dinefwr)
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Leanne
Wood (Rhondda)
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Sian
Gwenllian (Arfon)
Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.24
NDM6576
Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Parhad i Gymru.
2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai cadarnhau bod yr holl bynciau a oedd yn rhan
o gyfraith yr UE yn parhau o fewn cyfraith Cymru lle bônt o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Deddf Cymru 2017.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.