Cyfarfodydd

NDM6617 Dadl: Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl: Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni

NDM6617 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cyhoeddi Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni.

Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu:

a) bod gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth (Gwerth Ychwanegol Gros) yn is-ranbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn dal i fod ar y gwaelod ledled y DU, ar ddim ond 64 y cant o gyfartaledd y DU - gyda Chymoedd Gwent yn ail yn unig i Ynys Môn fel yr isaf yn y DU;

b) bod adroddiad Sefydliad Bevan "Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales”, yn nodi er y rhagwelir y bydd diweithdra yn y DU yn aros yn tua 4.3 y cant dros y flwyddyn, bod perfformiad yn annhebygol o fod yn ddigon i hybu'r rhannau hynny o Gymru lle mae diweithdra yn uwch o lawer na ffigur y DU, megis Merthyr Tudful (7.3 y cant) a Blaenau Gwent (6.7 y cant);

c) y gohiriwyd cyflwyno rhaglen gyflogadwyedd newydd Cymru'n Gweithio Llywodraeth Cymru tan fis Ebrill 2019.

Sefydliad Bevan - "Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales (Saesneg yn unig)

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn siarad ynghylch, ymgynghori ar, dylunio a chyflwyno 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni' â phobl sy'n byw a gweithio yng nghymoedd de Cymru; Llywodraeth y DU; y sector busnes a'r trydydd sector, wrth i waith y tasglu fynd yn ei flaen.

Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Yn nodi er mwyn cael ymgysylltiad gwirioneddol â mudiad "Creu Sbarc", i greu busnesau mwy proffidiol o Gymru sy'n sicrhau cyfoeth a ffyniant ar gyfer Cymru gyfan, y bydd angen cydweithrediad Llywodraeth Cymru gyda diwylliant sy'n cysylltu arloesi ac entrepreneuriaeth gyda'i gilydd.

Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen am fuddsoddiad strategol ym mhob rhan o Gymoedd De Cymru, gan gynnwys y Cymoedd gorllewinol.

Yn credu mai dim ond gyda lefel ddigonol o gyllid y caiff y Cynllun Cyflawni ei gyflawni'n llawn.

Yn credu y bydd angen corff cyflenwi trosfwaol i fonitro, hyrwyddo a gweithredu'r Cynllun Cyflawni.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.15

NDM6617 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cyhoeddi Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu:

a) bod gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth (Gwerth Ychwanegol Gros) yn is-ranbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn dal i fod ar y gwaelod ledled y DU, ar ddim ond 64 y cant o gyfartaledd y DU - gyda Chymoedd Gwent yn ail yn unig i Ynys Môn fel yr isaf yn y DU;

b) bod adroddiad Sefydliad Bevan "Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales”, yn nodi er y rhagwelir y bydd diweithdra yn y DU yn aros yn tua 4.3 y cant dros y flwyddyn, bod perfformiad yn annhebygol o fod yn ddigon i hybu'r rhannau hynny o Gymru lle mae diweithdra yn uwch o lawer na ffigur y DU, megis Merthyr Tudful (7.3 y cant) a Blaenau Gwent (6.7 y cant);

c) y gohiriwyd cyflwyno rhaglen gyflogadwyedd newydd Cymru'n Gweithio Llywodraeth Cymru tan fis Ebrill 2019.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn siarad ynghylch, ymgynghori ar, dylunio a chyflwyno 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni' â phobl sy'n byw a gweithio yng nghymoedd de Cymru; Llywodraeth y DU; y sector busnes a'r trydydd sector, wrth i waith y tasglu fynd yn ei flaen.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi er mwyn cael ymgysylltiad gwirioneddol â mudiad "Creu Sbarc", i greu busnesau mwy proffidiol o Gymru sy'n sicrhau cyfoeth a ffyniant ar gyfer Cymru gyfan, y bydd angen cydweithrediad Llywodraeth Cymru gyda diwylliant sy'n cysylltu arloesi ac entrepreneuriaeth gyda'i gilydd.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant sy’n weddill o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen am fuddsoddiad strategol ym mhob rhan o Gymoedd De Cymru, gan gynnwys y Cymoedd gorllewinol.

Yn credu mai dim ond gyda lefel ddigonol o gyllid y caiff y Cynllun Cyflawni ei gyflawni'n llawn.

Yn credu y bydd angen corff cyflenwi trosfwaol i fonitro, hyrwyddo a gweithredu'r Cynllun Cyflawni.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

3

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM6617 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyhoeddi Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni.

2. Yn gresynu:

a)    bod gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth (Gwerth Ychwanegol Gros) yn is-ranbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn dal i fod ar y gwaelod ledled y DU, ar ddim ond 64 y cant o gyfartaledd y DU - gyda Chymoedd Gwent yn ail yn unig i Ynys Môn fel yr isaf yn y DU;

b)   bod adroddiad Sefydliad Bevan "Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales”, yn nodi er y rhagwelir y bydd diweithdra yn y DU yn aros yn tua 4.3 y cant dros y flwyddyn, bod perfformiad yn annhebygol o fod yn ddigon i hybu'r rhannau hynny o Gymru lle mae diweithdra yn uwch o lawer na ffigur y DU, megis Merthyr Tudful (7.3 y cant) a Blaenau Gwent (6.7 y cant);

c)    y gohiriwyd cyflwyno rhaglen gyflogadwyedd newydd Cymru'n Gweithio Llywodraeth Cymru tan fis Ebrill 2019.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn siarad ynghylch, ymgynghori ar, dylunio a chyflwyno 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni' â phobl sy'n byw a gweithio yng nghymoedd de Cymru; Llywodraeth y DU; y sector busnes a'r trydydd sector, wrth i waith y tasglu fynd yn ei flaen.

4. Yn nodi er mwyn cael ymgysylltiad gwirioneddol â mudiad "Creu Sbarc", i greu busnesau mwy proffidiol o Gymru sy'n sicrhau cyfoeth a ffyniant ar gyfer Cymru gyfan, y bydd angen cydweithrediad Llywodraeth Cymru gyda diwylliant sy'n cysylltu arloesi ac entrepreneuriaeth gyda'i gilydd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.