Cyfarfodydd

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeiliaid portffolios

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/07/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Portffolios y Comisiwn

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Mae gan y Comisiwn gyfrifoldeb corfforaethol dros arfer y swyddogaethau a roddwyd iddo a chyfrifoldeb dros lywodraethu'r sefydliad. Mae gan y Comisiynwyr gyfrifoldeb ar y cyd dros benderfyniadau, ac mae ganddynt statws cyfartal mewn trafodaethau.

Gan y caiff y Comisiynwyr ddyrannu cyfrifoldeb dros oruchwylio ystod ddiffiniedig o waith sefydliadol i Gomisiynydd unigol, cytunodd y Comisiynwyr ar y portffolios a ganlyn:

           

Portffolio:

Comisiynydd

Cyfathrebu    

Llywydd

Cyllideb a llywodraethiant (gan gynnwys aelodaeth y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg)      

Ken Skates

Cydraddoldeb

Joyce Watson

Ieithoedd swyddogol          

Rhun ap Iorwerth

Datblygu cynaliadwy

Janet Finch-Saunders

 

Caiff y wybodaeth am y portffolios ei chyhoeddi ar wefan y Senedd er tryloywder.


Cyfarfod: 16/06/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Portffolios Comisiwn y Cynulliad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 5
  • Cyfyngedig 6

Cofnodion:

Mae gan y Comisiwn gyfrifoldeb corfforaethol am arfer y swyddogaethau a roddwyd iddo ac am lywodraethu'r sefydliad. 

 

Bu’r Comisiynwyr yn trafod yr egwyddorion llywodraethu sy’n darparu y gall y Comisiwn ddyrannu cyfrifoldeb am oruchwylio ystod ddiffiniedig o waith sefydliadol i Gomisiynydd unigol. Daethant i’r casgliad y byddai creu portffolios Comisiynwyr yn rhoi cyfle i bob Comisiynydd gynyddu ei wybodaeth mewn meysydd penodol ac i weithio gyda swyddogion i ddarparu cyfeiriad strategol ar sail fwy rheolaidd a thrylwyr nag y byddai cyfarfodydd y Comisiwn yn unig yn ei ganiatáu.

 

Cytunwyd ar y portffolios a ganlyn:

Cyfathrebu ac ymgysylltu

Elin Jones AC, Llywydd

Y gyllideb a llywodraethu, gan gynnwys bod yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.

Suzy Davies AC

Cydraddoldeb, a'r Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad.

Joyce Watson AC

Ieithoedd Swyddogol, a darparu a thrawsnewid gwasanaethau i Aelodau.

Dai Lloyd AC

Diogelwch ac adnoddau'r Cynulliad.

Caroline Jones AC

 

 


Cyfarfod: 28/02/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Comisiynydd


Cyfarfod: 27/09/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Y wybodaeth ddiweddaraf ac awgrymiadau gan y Comisiynydd

Papur 4

Cofnodion:

Rhannodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am faterion yn ymwneud â'u portffolios.

 

Darparu cefnogaeth seneddol o'r radd flaenaf

 

Mae’r gweithgareddau a ganlyn yn mynd rhagddynt: datblygu technoleg XML ar gyfer trafodion y Cyfarfod Llawn, datblygu Ap ar gyfer y Cynulliad, ac ymestyn cyfleusterau di-wifr ar draws yr ystâd.

 

Defnyddio adnoddau'n ddoeth

 

Clywodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad y Bwrdd Taliadau Annibynnol o staff Aelodau'r Cynulliad a'r adolygiad o drefniadau pensiwn Aelodau'r Cynulliad.


Cyfarfod: 28/06/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

7 Portffolios Comisiwn y Cynulliad

Paper 7

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Comisiynwyr yn trafod eu portffolios yn dilyn y flwyddyn gyntaf o weithredu a gwnaethant gytuno ar y newidiadau a gynigiwyd yn y papur, yn amodol ar un gwelliant. Bydd Sandy Mewies AC yn cymryd cyfrifoldeb dros gyfleusterau’r Cynulliad a bydd Peter Black AC yn parhau i fod yn gyfrifol am ystâd y Cynulliad oherwydd y cysylltiadau â chynaliadwyedd.


Cyfarfod: 08/03/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

6 Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Comisiynwyr am eu portffolios

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dyma’r eitemau a drafodwyd:

 

Gwasanaethau i’r Aelodau

Fel ymateb i sylwadau gan Aelodau’r Cynulliad, bydd swyddogion y Comisiwn yn cynnal arolwg o’r gwasanaethau a gynigir i’r Aelodau i helpu i nodi unrhyw feysydd i’w gwella. John Chick, Pennaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau, fydd yn arwain y gwaith hwn.

 

Archwilio

Cytunodd y Comisiwn y byddai’n cael adroddiadau’n rheolaidd gan y Pwyllgor Archwilio i sicrhau bod yr holl Gomisiynwyr yn ymwybodol o bwysigrwydd gwaith y Pwyllgor hwnnw. Cytunwyd y byddai’n cael ei gynnwys ar agenda cyfarfodydd y Comisiwn pan fyddai hynny’n briodol.

 

Siop y Cynulliad

Bydd Siop y Cynulliad yn symud i Gaffi’r Senedd erbyn y Pasg 2012. Mae gwaith ar y gweill i wella’r arwyddion, ac i wneud y rhan honno o’r adeilad yn fwy cyfforddus ac atyniadol, ac i benderfynu ar yr eitemau i’w gwerthu yn y siop. Cytunwyd y byddai hefyd yn bwysig hyfforddi’r staff.

 

Y Mesur Ieithoedd Swyddogol

Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wrthi’n ystyried Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).

 

Allgymorth a digwyddiadau

Mae nifer o ddigwyddiadau amlwg wedi’u cynnal ar ystâd y Cynulliad yn ystod yr wythnosau diwethaf ac maent wedi bod yn boblogaidd iawn. 

 

Bydd cyflwyniad ar waith ymgysylltu’r Tîm Allgymorth yn cael ei drefnu ar gyfer un o gyfarfodydd y Comisiwn maes o law.

 

Trafodaethau ynghylch cyflogau

Mae trafodaethau ar y gweill ynghylch cyflogau staff y Comisiwn.

 

Portffolios y Comisiynwyr

Cytunwyd y dylid egluro’r modd y mae’r gwaith yn y cael ei ddosbarthu rhwng y portffolios a, lle bo hynny’n briodol, y dylid ei addasu i adlewyrchu profiadau yn ystod y flwyddyn gyntaf.

 


Cyfarfod: 24/11/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

6 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeiliaid portffolios

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau o fewn eu portffolios.

 

Dywedodd Sandy Mewies AC, y Comisiynydd sy’n gyfrifol am gydraddoldeb, y bydd yn gweithio â’r Tîm Cydraddoldeb ar ddatblygu cynllun cydraddoldeb y Comisiwn a’r Gronfa Fynediad i Aelodau.

 

Cyflwynodd yr holl Gomisiynwyr sylwadau am yr adborth yr oeddent wedi’i gael gan yr Aelodau a’u staff ynghylch y problemau TGCh a gafwyd a chytunwyd ei bod yn annerbyniol bod y problemau wedi parhau cyhyd. Nododd Peter Black fod cyfarfod wedi’i gynnal â swyddogion ar lefel uwch yn BT a’u bod wedi rhoi sicrwydd y bydd y problemau band eang, a oedd wedi effeithio ar sawl rhan o’r Deyrnas Unedig, yn cael eu datrys o fewn tua 10 niwrnod. Dylai unrhyw broblemau eraill gael eu datrys pan fydd pawb wedi trosglwyddo i UNO Fersiwn 2, a bydd unrhyw broblemau gyda’r system gwaith achos yn cael eu datrys ar ôl hynny. Os bydd problemau’n parhau ar ôl hynny, gofynnwyd i swyddogion fynd â’r gŵyn ymhellach gan weithio â Llywodraeth Cymru.


Cyfarfod: 20/10/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

6 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeiliaid portffolios

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau o fewn eu portffolios.

 

Fel y Comisiynydd sy’n gyfrifol am gyllidebau a llywodraethu, rhoddodd Angela Burns y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiwn am adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft y Comisiwn. Cytunodd y Comisiwn ar ei ymateb i argymhellion y Pwyllgor, gan gynnwys cyflwyno’r cynnydd arfaethedig yn y gyllideb dros dair blynedd.

 

Cyflwynodd y Comisiynwyr eraill y wybodaeth ddiweddaraf am eu portffolios hefyd.


Cyfarfod: 16/06/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

3 Portffolios Comisiwn y Cynulliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Amlinellodd y Llywydd y dull portffolio arfaethedig, lle byddai pob Comisiynydd yn cymryd diddordeb penodol yn un o feysydd gwaith y Comisiwn. Nododd y Comisiwn y byddai hyn yn rhoi i bob Comisiynydd y cyfle i ehangu ei wybodaeth mewn meysydd penodol, ac i weithio gyda swyddogion i ddarparu cyfeiriad strategol yn fwy rheolaidd a thrylwyr nag y byddai cyfarfodydd y Comisiwn yn unig yn ei ganiatáu.  Byddai’r sawl sydd â phortffolio yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda swyddogion arweiniol ac yn cael trafodaethau nawr ac yn y man gyda’r Llywydd i roi gwybod iddi am y cynnydd.

Trafododd y Comisiwn gyfansoddiad pob portffolio, a chytunwyd i rannu’r cyfrifoldebau portffolio fel a ganlyn:

 

Portffolio

Comisiynydd

Llywydd a Chadeirydd y Comisiwn, gyda chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Cyfreithiol.

Rosemary Butler AC

Y gyllideb, llywodraethu, gan gynnwys aelodaeth y Pwyllgor Archwilio, a chysylltiadau â’r Bwrdd Taliadau. Gwella gwasanaethau i’r Aelodau, cymorth cyflogaeth a datblygu proffesiynol ar gyfer Aelodau a’u staff.

Angela Burns AC

TGCh, darlledu ac e-ddemocratiaeth, ystad y Cynulliad, cyfleusterau a chynaliadwyedd. Y Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad.

Peter Black AC

Gwasanaethau addysg, cyswllt cyntaf, arlwyo a diogelwch. Swyddogaethau statudol y Comisiwn mewn perthynas â chydraddoldeb a rhyddid gwybodaeth.

Sandy Mewies AC

Ymgysylltu a chyfathrebu â’r dinesydd, allgymorth cenedlaethol a rhyngwladol. Swyddogaethau a pholisi’r Comisiwn mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.

Rhodri Glyn Thomas AC

 

Yn ogystal, cytunodd y Comisiwn y dylai’r Dirprwy Lywydd ganolbwyntio ar feysydd sy’n ategu ei ddyletswyddau eraill, gan gynnwys materion cyfansoddiadol, busnes y Cynulliad, y Pierhead fel canolfan ar gyfer datblygu’r Cynulliad a thrafod, a chysylltu â Chanolfan Llywodraethiant Cymru.

Cytunodd y Comisiwn y dylai’r Llywydd anfon neges e-bost at yr Aelodau i roi cyhoeddusrwydd i gyfrifoldebau portffolio’r Comisiynwyr.