Cyfarfodydd

Adroddiad y Bwrdd Rheoli i’r Comisiwn

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/05/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

6 Adroddiad y Bwrdd Rheoli i’r Comisiwn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafodwyd yr eitemau a ganlyn:

 

Y Bwrdd Taliadau

        Mae’r Bwrdd yn cynnig gwneud newidiadau i’r trefniadau ar gyfer llety dros nos i Aelodau y mae eu prif gartref yn yr ardal fewnol, a bydd yn gwneud penderfyniad terfynol ar y mater yn ei gyfarfod ym mis Mehefin. Cafodd yr Aelodau wahoddiad i gyflwyno eu barn ar y mater;

 

        Bydd y Bwrdd Taliadau’n cynnal adolygiad o’r trefniadau staffio ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a bydd yn cysylltu â staff cymorth ac Aelodau wrth gyflawni’r gwaith hwn.

 

TGCh

 

        Gwnaed gwelliannau i’r gwasanaethau TGCh dros y misoedd diwethaf, sy’n cynnwys gwelliannau gan Atos a staff y Cynulliad. Yn eu plith mae gwelliannau o ran mynediad i’r system gyfrifiadurol mewn swyddfeydd etholaethol, ac archwiliadau o offer a seilwaith TGCh;

 

        Mae staff yr adran TGCh wedi cyfarfod â’r rhan fwyaf o Aelodau’r Cynulliad i nodi problemau. Bydd y wybodaeth a geir yn llywio’r dasg o gynllunio gwaith ar gyfer y dyfodol, fel cysylltedd diwifr a rhagor o ddewis o ddyfeisiau i ddefnyddwyr.

 

        Dechreuwyd ar ddau faes gwaith pwysig: prosiect i arfarnu’r opsiynau ar gyfer darparu gwasanaeth TGCh yn y dyfodol, a datblygu strategaeth TGCh ar gyfer y Cynulliad a’r Comisiwn. Caiff Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y ddau faes gwaith yn rheolaidd.


Cyfarfod: 02/02/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

6 Adroddiad y Bwrdd Rheoli i’r Comisiwn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Bwrdd Rheoli gan Claire Clancy.

 

Roedd y papur yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am faterion allweddol o fewn pob un o’r amcanion strategol, yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid a manylion y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a ddaeth i law ers yr adroddiad diwethaf gan y Bwrdd Rheoli. Y mis hwn, roedd cofnodion cyfarfod diwethaf Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad hefyd yn atodedig i’r adroddiad er gwybodaeth.

 

Trafodwyd yr eitemau a ganlyn:

 

Y contract rheoli cyfleusterau
Yn dilyn proses dendro gystadleuol, dyfarnwyd y contract rheoli cyfleusterau i Norland Managed Services Ltd am bum mlynedd o 1 Ebrill 2012, gydag opsiwn i’w ymestyn am un flwyddyn arall. Mae’r contract yn cynnwys gwaith cynnal a chadw a rheoli ystâd y Cynulliad, cyngor ar yr ystâd, gwasanaethau proffesiynol a glanhau ffenestri, ac mae’n cynnwys gwariant o tua £925,000 bob blwyddyn.

 

Hefyd bu’r Comisiynwyr yn trafod y dull o ymdrin â chaffael yn fwy cyffredinol, a chytunwyd y dylai’r mater fod yn eitem ar yr agenda mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Y cynllun diswyddo gwirfoddol

Cynigir cynllun ymadael gwirfoddol cyfyngedig i holl staff y Cynulliad. Cynlluniwyd y cynllun i sicrhau bod modd i nifer staff y Comisiwn a’i strwythur staffio ddarparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf yn ystod y Pedwerydd Cynulliad drwy alluogi’r sefydliad i ymateb i newidiadau yn ein gofynion o ran sgiliau, gwella effeithlonrwydd y gweithlu, hwyluso newid sefydliadol, a darparu arbedion tymor hir lle bo modd. Pwysleisiodd y Comisiynwyr mor bwysig yr oedd bod y penderfyniadau a wneir yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol a bod darpariaeth talu’n ôl i’r sefydliad.

 

Hefyd cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y modd o fynd i’r afael â’r problemau TGCh parhaus. Eglurodd Claire Clancy ei bod wedi ysgrifennu at yr uwch reolwyr yn Atos yn mynegi ei phryder difrifol ynghylch safonau’r gwasanaeth a’r problemau parhaus, gan gynnwys methiant y system e-bost ar 18 Ionawr. Dechreuodd Atos weithredu cynllun i wella’r gwasanaeth ar unwaith.

 

Bydd Peter Black AC, ynghyd â swyddogion y Comisiwn, yn cyfarfod ag aelodau unigol i gasglu tystiolaeth ar y problemau y mae Aelodau yn eu hwynebu er mwyn sicrhau y caiff y rhain sylw fel rhan o’r cynllun gwella’r gwasanaeth.

 


Cyfarfod: 20/10/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

5 Adroddiad y Bwrdd Rheoli i’r Comisiwn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr y wybodaeth ddiweddaraf am y materion o fewn pob un o amcanion strategol y Comisiwn.

 

Nodwyd yr adroddiad.