Cyfarfodydd
Cronfa Fynediad
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/10/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
4 Gwella cymorth mynediad i Aelodau’r Cynulliad: creu cronfa fynediad
Dogfennau ategol:
- AC(4)2011(5) Papur 4 - Cymorth i Aelodau’r Cynulliad, Eitem 4
PDF 147 KB
Gweld fel HTML (4/1) 67 KB
- AC(4)2011(5) Papur 4 Atodiad A, Eitem 4
PDF 19 KB
Gweld fel HTML (4/2) 26 KB
Cofnodion:
Trafodwyd y syniad
o greu Cronfa Fynediad ganolog. Byddai’r gronfa yn galluogi’r
holl Aelodau i ymgysylltu ag
etholwyr sydd ag anghenion amrywiol.
Byddai’r gronfa hefyd yn lliniaru
effeithiau’r risg o weithredu neu o beidio â gweithredu a allai fynd
yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Nododd y Comisiynwyr y byddai’r gronfa’n cael ei sefydlu
a’i gweinyddu y tu allan
i gylch gwaith y Bwrdd Taliadau ond bod rhai darpariaethau
cysylltiedig o fewn darpariaethau’r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau
Aelodau. Cytunwyd y dylid hysbysu’r
Bwrdd Taliadau ynghylch y penderfyniad a sut y caiff ei
weithredu.
Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i ddefnyddio’r gronfa ar gyfer rhoi
cymorth mynediad i grwpiau trawsbleidiol yn y Cynulliad. Byddai hyn yn cael
ei gyfyngu i ofynion penodol, ac eglurodd y Comisiynwyr na ddylai
estyn i gymorth cyffredinol i grwpiau trawsbleidiol.
Cytunodd y Comisiwn
ar yr argymhellion
yn y papur.
Cam i’w gymryd: Swyddogion, mewn ymgynghoriad â Sandy Mewies,
i ddatblygu canllawiau i ddefnyddio’r gronfa.
Cam i’w gymryd: Swyddogion i ddiweddaru’r canllawiau i gymorth ar gyfer
grwpiau trawsbleidiol.