Cyfarfodydd

UNO

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 28/06/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Adolygiad o fanteision y prosiect UNO

Papur 6

Cofnodion:

Yn y cyfarfod ym mis Hydref 2011, cyflwynwyd adolygiad i’r Comisiwn o’r manteision ac arbedion a ddarparwyd gan y prosiect UNO a gofynnodd i gael adroddiadau cyson ar y manteision a gaiff eu cyflawni.

Cyflawnodd UNO ei amcan o wahanu seilwaith y Cynulliad oddi wrth seilwaith Llywodraeth Cymru. Roedd hwn yn gam angenrheidiol ac anochel sydd wedi rhoi’r Cynulliad mewn sefyllfa lle gall benderfynu ar ei ddarpariaeth gwasanaethau TGCh a strategaeth TGCh yn y dyfodol.

Manteision eraill oedd mudo i Windows 7 ac Office 2010, gwelliannau i gysondeb busnes a chadernid systemau’r Cynulliad a gwell cysylltedd, yn enwedig i swyddfeydd etholaethol.

Cafodd amrywiaeth o broblemau technegol eu datrys ond rydym yn parhau i ystyried rhai eraill, gan gynnwys uwchraddio i’r system gwaith achos, datrys problemau argraffu lleol a symleiddio mynediad at gymwysiadau.

Er bod y Comisiynwyr yn cydnabod bod y camau a gymerwyd fel rhan o’r broses UNO yn angenrheidiol, gwnaethant fynegi pryder am y problemau TGCh y mae Aelodau a’u staff yn parhau i’w hwynebu a chytunwyd y dylai swyddogion barhau i flaenoriaethu’r gwaith o ddatrys y problemau hyn.


Cyfarfod: 20/10/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

3 Adolygiad ar ôl chwe mis ar fuddion ac arbedion UNO

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf am fuddion ac arbedion prosiect UNO. Trafodwyd y cyflawniadau ar sail amcanion y prosiect a’r gwaith i gasglu adborth ar fodlonrwydd y defnyddwyr. Cytunwyd bod cyflawniadau sylweddol wedi’u gwneud, ond bod nifer o faterion technegol heb eu datrys a oedd yn achosi anawsterau i rai defnyddwyr.

 

Mae cynllun i ddatrys y materion hyn ar waith gyda Atos, sy’n darparu adnoddau technegol penodol i archwilio a datblygu’r atebion heb gost ychwanegol i’r Cynulliad. Treialwyd y feddalwedd wedi’i diweddaru gan 100 o ddefnyddwyr, a rhagwelir y bydd y newidiadau’n cael eu rhoi ar waith ar gyfer pob defnyddiwr yn ystod mis Hydref. 

 

Sefydlwyd grŵp strategaeth TGCh ym mis Mawrth 2011 i ystyried yr opsiynau ar gyfer darpariaeth TGCh ar ôl 2014. Bydd papur opsiynau manwl yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Comisiwn ar 24 Tachwedd.

 

Nododd y Comisiwn yr adroddiad a’r mesurau a roddwyd ar waith i ddatrys y materion a oedd yn weddill. Cytunwyd y bu ymrwymiad sylweddol gan y staff TGCh o ran cyflawni’r prosiect hwn. 

 

Bydd papur gwerthuso arall ar UNO yn cael ei gyflwyno i’r Comisiwn mewn chwe mis.

 

Cam i’w gymryd: Swyddogion i baratoi papur ar fuddion ariannol prosiect UNO fel rhan o’r adroddiad cynnydd nesaf mewn chwe mis.