Cyfarfodydd
Y Bwrdd Taliadau
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 30/01/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Bwrdd Taliadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr ddau lythyr a oedd wedi’u hanfon gan
y Bwrdd Taliadau.
Roedd y llythyr cyntaf yn tynnu sylw at ymgynghoriad
presennol y Bwrdd ynghylch newidiadau arfaethedig i'r Penderfyniad ar Gyflogau
a Lwfansau Aelodau ar gyfer 2023/24. Cytunodd y Comisiwn i ymateb i’r
ymgynghoriad i dynnu sylw at y goblygiadau i gyllideb y Comisiwn. Cytunodd y
Comisiynwyr i gwblhau eu hymateb y tu allan i’r cyfarfod.
Roedd yr ail lythyr yn ymwneud â chais gan y Bwrdd i
gynnal trafodaeth â’r Comisiwn ynghylch y modd y bydd y cymorth a gaiff yr
Aelodau i gyflawni eu dyletswyddau yn y dyfodol yn cael eu darparu drwy
wasanaethau’r Comisiwn a Phenderfyniad y Bwrdd.
Trafododd y Comisiynwyr bwysigrwydd cadw’r
ddau gorff ar wahân gan bwysleisio bod angen osgoi dryswch ynghylch rolau'r naill gorff a’r llall a diogelu'r
gwahaniaeth rhyngddynt.
Cytunodd y Comisiynwyr
ar yr egwyddor y byddai system i gynnal trafodaeth yn ddefnyddiol er mwyn cael
dealltwriaeth gyffredin o gyfeiriad y gwaith a chytunwyd y byddai swyddogion y
Comisiwn yn gweithio gyda’r rhai sy’n cynorthwyo’r Bwrdd Taliadau i fwrw ymlaen
â hyn.
Cafodd y Comisiynwyr
wybod hefyd fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi
ysgrifennu at Ken Skates ynghylch atebolrwydd y Bwrdd Taliadau.
Cyfarfod: 08/02/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau ynghylch y Penderfyniad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
lythyr ac ymgynghoriad gan y Bwrdd Taliadau.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Penodiadau i’r Bwrdd Taliadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
Caiff penodiadau i'r Bwrdd Taliadau eu gwneud gan y
Comisiwn. Cadarnhaodd y Comisiynwyr ddau benodiad newydd a dau ailbenodiad i'r
Bwrdd Cydnabyddiaeth annibynnol, ar y sail a nodwyd ym Mesur Cynulliad
Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010. Wrth wneud hynny fe wnaethant gadarnhau eu
bod yn fodlon nad oedd yr un o'r rhai a gynigiwyd i'w penodi wedi'u gwahardd
rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd. Bydd y penodiadau newydd yn dechrau ar 21 Medi
2020.
Penododd y Comisiynwyr
Elizabeth Haywood yn Gadeirydd, a Hugh Widdis yn aelod o'r Bwrdd i lenwi swyddi
sydd ar fin bod yn wag, am dymor o bum mlynedd, ac ailbenodwyd Mike Redhouse
a'r Fonesig Jane Roberts yn aelodau o'r Bwrdd am ail dymor o bum mlynedd.
Cyfarfod: 16/03/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Gohebiaeth y Bwrdd Taliadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 13
- Cyfyngedig 14
- Cyfyngedig 15
Cofnodion:
Bu'r Comisiynwyr yn trafod llythyrau gan y
Bwrdd Taliadau ynghylch ymgynghoriad y Bwrdd ar y Penderfyniad drafft ar gyfer y
Chweched Senedd, ac ynghylch ystyriaeth bellach y Bwrdd o'r materion mewn
perthynas â chostau a ysgwyddwyd gan Aelodau am redeg eu swyddfeydd, ac
eithrio'r rhai y mae’r Penderfyniad yn darparu ar eu cyfer, lle gwnaethant ddau
argymhelliad.
Cytunodd y Comisiynwyr i ysgrifennu yn ôl at y Bwrdd
gyda'u casgliadau mewn perthynas â'r argymhellion, gan gytuno, drwy fwyafrif, i
ddwyn ymlaen cyhoeddi data o ran defnydd i ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf,
ac i ddarparu gwybodaeth i gefnogi gwaith y Bwrdd tuag at gynnwys y
darpariaethau hyn yn y Penderfyniad. Ar ôl trafod barn y Bwrdd ynghylch
cyflwyno 'cap', cytunwyd i gadw’r status quo ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd
i ddod.
Cytunwyd hefyd i dynnu
sylw at ddau fater sy'n codi o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad, sef esboniad
ynghylch y ddwy elfen gyllido a nodwyd i gefnogi ymgysylltu ag etholwyr, a
statws yr eiddo a ariennir gan y Comisiwn.
Cyfarfod: 27/01/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Llythyr gan y Bwrdd Taliadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
lythyr gan y Bwrdd Taliadau a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt yn
dilyn cyfarfod y Bwrdd ym mis Tachwedd. Gofynnodd y llythyr am wybodaeth
bellach a manylion ynghylch presenoldeb swyddogion mewn un o gyfarfodydd y
Bwrdd yn y dyfodol; roedd hyn yn ymwneud â chostau swyddfa a ddarperir gan
Gomisiwn y Cynulliad, ac Yswiriant Atebolrwydd Arferion Cyflogaeth.
Cyfarfod: 04/11/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Yswiriant Atebolrwydd Arferion Cyflogaeth (EPLI) ar gyfer Aelodau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 21
Cofnodion:
Cytunodd y Comisiynwyr
i ofyn i’r Bwrdd Taliadau ystyried darparu Yswiriant Atebolrwydd Arferion
Cyflogaeth ar gyfer Aelodau’r Cynulliad.
Cyfarfod: 04/11/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adolygiad y Bwrdd Taliadau o'r Penderfyniad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr ddau fater y tynnodd Cadeirydd y Bwrdd Taliadau eu
sylw atynt mewn perthynas ag ymgynghoriad y Bwrdd yn dilyn ei Adolygiad o’r
Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad,
Nododd y Comisiynwyr y llythyr gan y Bwrdd Taliadau a chytunwyd y dylai'r
Llywydd ymateb i gadarnhau y byddent yn ystyried gwasanaethau All-leoli fel rhan
o'r gwaith o gynllunio ar gyfer etholiad 2021; ac yn cytuno, mewn egwyddor, ar
y modd y mae’r Bwrdd Taliadau yn bwriadu egluro’r cymorth a roddir i Aelodau ag
anableddau yn y Penderfyniad. Wrth wneud hyn, roedd y Comisiynwyr am dynnu sylw
at gwmpas llawn Cronfa Cydraddoldeb a Mynediad y Comisiwn.
• ymgynghori
â'r Bwrdd Taliadau ynghylch cynnwys darparu / costau deunydd ysgrifennu Lyreco
yn y Penderfyniad yn y dyfodol;
• y
Comisiwn i barhau i ddarparu deunydd ysgrifennu rhagdaledig, a thalu am bostio
a swmp-bostio ac argraffu; a pharhau i fonitro unrhyw gostau y gellir eu
priodoli i Aelodau unigol a’u cyhoeddi’n rheolaidd o fis Mai 2021 ymlaen, i
wella tryloywder; a
• defnyddio
dulliau gwahanol o ddarparu rhai gwasanaethau, i leihau costau ac i sicrhau
gwerth am arian.
Byddai’r Bwrdd
Taliadau yn darparu rhagor o wybodaeth maes o law.
Cyfarfod: 03/11/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Trafodaeth gydag aelodau’r Bwrdd Taliadau
papur 2
Cofnodion:
Cyfarfu’r
Comisiwn yn ffurfiol am y tro cyntaf gydag aelodau o’r Bwrdd Taliadau yn dilyn
cyfnewid llythyrau ynghylch gwaith y Bwrdd. Ymunodd Sandy Blair, Cadeirydd y
Bwrdd, Laura McAllister a Stuart Castledine â’r Comisiynwyr i drafod syniadau’r
Comisiwn o ran y materion strategol sy’n ymwneud â her, maint a chymhlethdod y
cyfrifoldebau sy’n cael eu hysgwyddo gan Aelodau’r Cynulliad. Blaenoriaeth y
Comisiwn yw ystyried anghenion hirdymor y Cynulliad fel sefydliad democrataidd
effeithiol, a sicrhau y gall Aelodau’r Cynulliad gyflawni eu cyfrifoldebau yn
effeithiol.
Teimlai’r
Comisiynwyr ei bod yn bwysig tynnu sylw aelodau’r Bwrdd at y materion hyn, gan
y bydd y gwaith a wneir ganddynt yn chwarae rhan bwysig yng nghapasiti
Aelodau’r Cynulliad i ymdrin â’r heriau hyn yn y dyfodol.
Dywedodd
aelodau’r Bwrdd eu bod yn awyddus i gefnogi capasiti’r Aelodau, yn enwedig tra
bod yr Aelodau o dan bwysau ychwanegol oherwydd maint bach y Cynulliad.
Pwysleisiodd y Comisiynwyr mor bwysig oedd sicrhau bod hyblygrwydd ac eglurder
yn y lwfansau a allai fod ar gael, ac roeddent yn cydnabod yr her o ganfod y
cydbwysedd cywir. Roeddent hefyd yn rhoi pwyslais ar gyfleu gwybodaeth am
newidiadau yn effeithiol i’r Aelodau.
Trafododd y
Comisiynwyr ac aelodau’r Bwrdd gronfa ymgysylltu, a’r ystyriaethau a fyddai’n
angenrheidiol pe bai ‘cynllun peilot’ yn cael ei sefydlu a’i gynnal.
Trafododd yr
aelodau o’r ddau gorff y berthynas rhwng lwfansau cyfrifoldeb a hyfforddiant /
datblygiad proffesiynol ar gyfer deiliaid swyddi, gan ddefnyddio cadeirio
pwyllgorau fel enghraifft. Eu gobaith oedd, gyda’i gilydd, bod modd iddynt greu
amgylchedd lle mae datblygiad proffesiynol parhaus yn cael ei ystyried yn
normal ac yn berthnasol i bawb. Yn gysylltiedig â’r cynnig ynghylch ehangu
cynllun prentisiaeth y Comisiwn, nododd y Comisiynwyr hefyd y posibilrwydd o
neilltuo peth cyllid ar gyfer rolau intern gydag Aelodau’r Cynulliad.
Cytunodd y Comisiynwyr ac aelodau’r Bwrdd Taliadau bod y drafodaeth
wedi bod yn ddefnyddiol, a chytunwyd i gyfarfod eto.
Cyfarfod: 14/07/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
6 Penderfyniad ac adroddiad y Bwrdd Taliadau
Dogfennau ategol:
- AC(4)2011(3) Papur 6 - Penderfyniad y Bwrdd Taliadau, Eitem 6 PDF 548 KB
- AC(4)2011(3) Papur 6 - Adroddiad y Bwrdd Taliadau, Eitem 6 PDF 2 MB
Cofnodion:
Gwnaeth y Bwrdd Taliadau ei Benderfyniad
cyntaf ym mis Mawrth 2011, ond ar y pryd nid oedd yn gallu gwneud penderfyniadau
terfynol o ran y cyflogau ychwanegol sy’n daladwy i rai deiliaid swyddi yn y
Cynulliad. Mae’r
Penderfyniad bellach wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu penderfyniadau ar
gyflogau ychwanegol sy’n daladwy i Gomisiynwyr, arweinwyr y pleidiau, cadeiryddion
pwyllgorau a rheolwyr busnes, a derbyniwyd y Penderfyniad yn ffurfiol yng
nghyfarfod y Comisiwn. Roedd y Comisiynwyr o’r farn nad oedd
y trefniadau cyflog ychwanegol i reolwyr busnes y pleidiau yn ddigonol o ran
adlewyrchu gwahaniaethau yn y nifer o seddi sydd gan bob plaid.
Codwyd materion gyda’r Llywydd a’r Comisiynwyr eraill am
y cap misol ar lety ar rent ac am y meini prawf o ran pellter i fod yn gymwys i
gael cymorth llety yn seiliedig ar yr etholaeth neu’r rhanbarth y mae’r Aelod
yn ei gynrychioli. Cytunodd y Comisiwn y byddai’r Llywydd yn
ysgrifennu at Gadeirydd y Bwrdd Taliadau.
Camau i’w cymryd: Yr Ysgrifenyddiaeth i drefnu gosod y Penderfyniad a’r
adroddiad, ac anfon y dogfennau i Aelodau'r Cynulliad a’u staff.
Y Llywydd i ysgrifennu at Gadeirydd y
Bwrdd Taliadau yn nodi pryderon yr Aelodau am y cyfyngiadau ar gymhwyster ar
gyfer cymorth llety.