Cyfarfodydd

System rheoli achosion y Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/06/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (sesiwn 7)

Tyst:

Dr Tom Crick PhD FBCS FHEA,  Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Cofnodion:

5.1 Bu Dr Tom Crick yn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.


Cyfarfod: 14/07/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

5 System rheoli achosion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Darparwyd gwybodaeth am nifer yr Aelodau sy’n defnyddio'r system; cost y system hyd yn hyn; goblygiadau o ran diogelu adnoddau pan fydd staff y comisiwn yn ymwneud â’r broses o ofyn am ddata o’r gofrestr etholiadol a chael y data hynny; a’r risgiau o’r data yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mantais wleidyddol.

 

Codwyd pryderon ynghylch costau’r prosiect hyd yn hyn, a gofynnwyd am fwy o waith i gael ei wneud ar brosiectau tebyg yn y dyfodol i sefydlu gofynion defnyddwyr, amcangyfrif y nifer a fydd yn ei ddefnyddio, a sicrhau bod amcangyfrifon o’r costau yn gadarn.

 

Cytunodd y Comisiwn i wneud cais i’r Comisiwn ddod yn gorff a enwir yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001.

 

Cam i’w gymryd: Keith Bush i ofyn am newid i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 i gynnwys Comisiwn y Cynulliad fel corff a enwir.

 


Cyfarfod: 16/06/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

6 System rheoli achosion y Cynulliad (cofrestri etholwyr)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd papur chwech gan Peter Black AC, a nododd fod y system rheoli achosion, lle'r oedd nifer o anawsterau wedi bod wrth ei datblygu a’i gweithredu, erbyn hyn yn barod ac ar waith.  Nododd mai’r gronfa ddata y bwriedir ei defnyddio i redeg y feddalwedd oedd y gofrestr etholiadol heb ei golygu. O dan y ddeddfwriaeth bresennol, gall Aelodau’r Cynulliad ofyn am gopïau o’r gofrestr gan Swyddogion Canlyniadau. Caiff y rheini wedyn eu rhoi i staff y Comisiwn i fewngofnodi’r data yn y system rheoli achosion ar ran yr Aelodau. Fodd bynnag, nid yw staff y Comisiwn eu hunain yn gallu cael y data’n uniongyrchol oddi wrth swyddogion cofrestru etholiadol.

 

Bu’r Comisiwn yn trafod defnyddio’r system rheoli achosion, a materion diogelu data a diogelwch a allai godi o ddefnyddio fersiynau o’r gofrestr etholiadol heb eu cyfyngu, a hynny’n cynnwys bod staff y Comisiwn yn trin y data. Hefyd byddai angen gwneud cais i Lywodraeth y DU am is-ddeddfwriaeth i gynnwys y Comisiwn ar y rhestr o gyrff wedi eu henwi pe bai’r Comisiwn yn bwrw ymlaen â’r cynnig. Mynegwyd pryderon am berchnogaeth data, diogelu data, posibilrwydd defnyddio’r gofrestr at ddibenion gwleidyddol plaid, a buddsoddi pellach mewn meddalwedd a oedd eisoes wedi costio mwy nag a ddisgwyliwyd. Nododd y Comisiwn fod yr Aelodau ar hyn o bryd yn gallu gofyn am y data, a byddai staff TGCh yn hwyluso’u mewnosod ar y system, ond roedd mewnosod cofrestrau a fyddai’n cwmpasu Cymru gyfan yn ddibynnol ar ofyn am ddata gan yr Aelodau perthnasol.

 

Gofynnodd y Comisiwn am i ragor o wybodaeth am nifer yr Aelodau a oedd yn defnyddio’r system rheoli achosion, y goblygiadau o ran yr adnoddau a’r costau o gael staff y Comisiwn yn ymwneud â gofyn am y data a’u cael yn uniongyrchol, gael ei darparu ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.