Cyfarfodydd
NDM6521 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 29/11/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 29/11/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 29/11/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6521
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe)
David
Melding (Canol De Cymru)
Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dawn
Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y gall inswleiddio waliau ceudod, pan y
caiff ei wneud yn gywir mewn eiddo addas, fod yn ffordd gost effeithiol o
leihau biliau tanwydd, gan gyfrannu at leihau allyriadau carbon a thlodi
tanwydd.
2. Yn credu, fodd bynnag, fod lleiafrif sylweddol o
osodiadau yn parhau mewn eiddo anaddas ac eiddo nad yw'n cydymffurfio â
safonau gwaith da, a bod ceisio cael iawn am hynny yn aml yn anodd a'r iawndal
yn aml yn annigonol neu'n amhosibl ei gael.
3. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth
y DU, Cavity Insulation Guarantee Agency ac eraill i ddarparu iawndal priodol
ac iawndal ar gyfer gwaith a gaiff ei osod yn anghywir, ac i gryfhau'r prosesau
ar gyfer diogelu defnyddwyr yn y dyfodol.
Cefnogwyd
gan:
Mick
Antoniw (Pontypridd)
Russell
George (Sir Drefaldwyn)
Sian
Gwenllian (Arfon)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.43
NDM6521
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
David Melding (Canol De Cymru)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod y gall inswleiddio waliau ceudod, pan y caiff ei wneud yn gywir
mewn eiddo addas, fod yn ffordd gost effeithiol o leihau biliau tanwydd, gan
gyfrannu at leihau allyriadau carbon a thlodi tanwydd.
2.
Yn credu, fodd bynnag, fod lleiafrif sylweddol o osodiadau yn parhau mewn
eiddo anaddas ac eiddo nad yw'n cydymffurfio â safonau gwaith da, a bod ceisio
cael iawn am hynny yn aml yn anodd a'r iawndal yn aml yn annigonol neu'n
amhosibl ei gael.
3.
Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Cavity Insulation
Guarantee Agency ac eraill i ddarparu iawndal priodol ac iawndal ar gyfer
gwaith a gaiff ei osod yn anghywir, ac i gryfhau'r prosesau ar gyfer diogelu
defnyddwyr yn y dyfodol.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.