Cyfarfodydd

P-05-794 Gostwng yr Oedran Pleidleisio i Un ar Bymtheg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-794 Gostwng yr Oedran Pleidleisio i Un ar Bymtheg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddatganiad ysgrifenedig diweddar gan y Llywydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y ddeddfwriaeth a gyhoeddwyd i ostwng yr oedran pleidleisio isaf i 16 oed ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ac awdurdodau lleol, a llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.

 

 


Cyfarfod: 23/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-794 Gostwng yr Oedran Pleidleisio i Un ar Bymtheg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am gyhoeddi'r ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiwygio etholiadol ac annog y deisebwyr a chefnogwyr eraill i gyflwyno eu barn ar hyn.