Cyfarfodydd

Ymchwiliad i ddarpariaeth tai fforddiadwy

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/06/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Dadl ar Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Ddarpariaeth Tai Fforddiadwy yng Nghymru

NDM5013 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Darpariaeth Tai Fforddiadwy yng Nghymru, a gafodd ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ebrill 2012.

 

Sylwer: Cafodd ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2012.

 

Dogfennau Ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.34.

 

NDM5013 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Darpariaeth Tai Fforddiadwy yng Nghymru, a gafodd ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ebrill 2012.

 

Sylwer: Cafodd ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 15/03/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Sesiwn Breifat: Ystyried Adroddiad y Pwyllgor ar yr Ymchwiliad i Ddarparu Tai Fforddiadwy

Gwahoddir y Pwyllgor i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 4 o’r cyfarfod yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi):

 

Caiff pwyllgor benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod neu unrhyw ran o gyfarfod:

 

(vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu

argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n

ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson.

 

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, yn amodol ar wneud rhai newidiadau iddo. 


Cyfarfod: 01/02/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i ddarpariaeth tai fforddiadwy - trafod y themâu sy'n codi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y prif themâu a nododd y bydd yn ystyried yr adroddiad drafft mewn cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol.


Cyfarfod: 18/01/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 LGB(4)-02-12 : Papur 7

Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Sir Gaint i’r ymchwiliad i ddarpariaeth tai fforddiadwy

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/01/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 LGB(4)-02-12 : Papur 4

Gwybodaeth ddilynol gan Cartrefi Cymunedol Cymru ar ôl y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 07/12/2011 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 CELG(4)-10-11 : Papur 3

Gwybodaeth ddilynol i’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd gan Cartrefi Cymunedol Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 07/12/2011 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i ddarpariaeth tai fforddiadwy

Cymdeithas Adeiladu Principality a’r Cyngor Benthycwyr Morgeisi

CELG(4)-10-11 : Papur 1

 

Peter Hughes, y Cyngor Benthycwyr Morgeisi

Peter Morton, y Cyngor Benthycwyr Morgeisi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Hughes, Cadeirydd Cyngor Benthycwyr Morgeisi Cymru, a Peter Morton, Uwch-gynghorydd Polisi, y Cyngor Benthycwyr Morgeisi.

 

Cytunodd Peter Hughes i ddarparu asesiad gwerth llawn i’r pwyllgor ynghylch systemau chwistrellu dŵr mewn tai.


Cyfarfod: 23/11/2011 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol

CELG(4)-09-11 : Papur 1

CELG(4)-09-11 : Papur 2

 

Richard Price, Cynghorwr Cynllunio a Pholisi – Cymru, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi

Andrew Crompton, Cyfarwyddwr Tir Rhanbarthol, Persimmon Homes

Dr Roisin Willmott, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Roisin Willmott o’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, Richard Price o’r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi ac Andrew Crompton o Persimmon Homes.

 

Cytunodd y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi i ddarparu nodyn ar yr eitemau a ganlyn:

 

Manylion ynghylch yr hyn yr hoffai’r ffederasiwn ei weld yn y Bil tai sydd ar ddyfod;

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd tir sydd â chaniatâd cynllunio ond nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer adeiladu tai; a

 

Nodyn ar y gwaith sy’n cael ei gyflawni yng nghanolbarth a gogledd Cymru ar ddarparu tai fforddiadwy, a hynny o fewn ardal adfywio strategol gogledd Cymru’n benodol.


Cyfarfod: 23/11/2011 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Ymchwiliad i ddarpariaeth tai fforddiadwy


Cyfarfod: 23/11/2011 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Llywodraeth Cymru

CELG(4)-09-11 : Papur 4

 

Huw Lewis AC, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Ceri Breeze, Pennaeth Y Gyfarwyddiaeth Dai

Rhidian Jones, Uwch-swyddog Tai Fforddiadwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Ceri Breeze, Pennaeth y Gyfarwyddiaeth Dai a Rhidian Jones, Uwch-swyddog Tai Fforddiadwy.


Cyfarfod: 23/11/2011 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

CELG(4)-09-11 : Papur 3

 

Steve Thomas, Prif Weithredwr

Y Cynghorydd Dyfed Edwards, Llefarydd Tai CLlLC ac Arweinydd Cyngor Gwynedd (drwy gyswllt fideo)

Sue Finch, Swyddog Polisi Tai CLlLC

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Steve Thomas, y Cynghorydd Dyfed Edwards (drwy fideo gynhadledd), Craig Mitchell a Sue Finch o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.


Cyfarfod: 09/11/2011 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ffederasiwn Tenantiaid Cymru

CELG(4)-08-11 : Papur 2

 

Steve Clarke, Rheolwr Gyfarwyddwr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Steve Clarke o Ffederasiwn Tenantiaid Cymru.


Cyfarfod: 09/11/2011 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cartrefi Cymunedol Cymru

CELG(4)-08-11 : Papur 1

 

Nick Bennett, Prif Weithredwr y Grŵp

Peter Cahill, Cadeirydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nick Bennett a Peter Cahill o Cartrefi Cymunedol Cymru.

 

Cytunodd Cartrefi Cymunedol Cymru i ddarparu nodyn ar yr hyn a ganlyn:

 

Enghreifftiau o gymdeithasau tai sy’n cydweithio ag awdurdodau lleol fel bod tai gwag yn y sector preifat yn cael eu defnyddio unwaith yn rhagor, ac ynghylch yr adnoddau a ddefnyddir i’r perwyl hwn.

 

Ffigurau o Uned Ymchwil Economaidd Cymru ynghylch effaith adfywio a nifer y safleoedd tir llwyd y dechreuwyd eu defnyddio.


Cyfarfod: 09/11/2011 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Ymchwiliad i ddarpariaeth tai fforddiadwy


Cyfarfod: 03/11/2011 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Canolfan Polisi Tai, Prifysgol Efrog

CELG(4)-07-11 : Papur 2 – ni dderbyniwyd papur

 

Yr Athro Steve Wilcox

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Steve Wilcox i’r cyfarfod.

 

Cytunodd y Clerc i ddosbarthu’r papur gan yr Athro Wilcox. Bydd cwestiynau ychwanegol gan Aelodau yn cael eu hanfon at yr Athro Wilcox i’w hateb yn ysgrifenedig.


Cyfarfod: 03/11/2011 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sefydliad Tai Siartredig Cymru

CELG(4)-07-11 : Papur 1

 

Keith Edwards, Cyfarwyddwr

Victoria Hiscocks, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Keith Edwards a Victoria Hiscocks o Sefydliad Tai Siartredig Cymru i’r cyfarfod.


Cyfarfod: 03/11/2011 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Ymchwiliad i ddarpariaeth tai fforddiadwy


Cyfarfod: 03/11/2011 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Adolygiad o dai fforddiadwy a gynhaliwyd ar ran Dirprwy Weinidog dros Dai y Cynulliad blaenorol

CELG(4)-07-11 : Papur 5

 

Sue Essex

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Sue Essex.


Cyfarfod: 03/11/2011 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Shelter Cymru a Cymorth Cymru

CELG(4)-07-11 : Papur 3

CELG(4)-07-11 : Papur 4

 

JJ Costello, Pennaeth Strategaeth a Datblygu, Shelter Cymru

Joy Kent, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd JJ Costello o Shelter Cymru a Joy Kent o Cymorth Cymru i’r cyfarfod.

 

Cytunodd Shelter Cymru i ddarparu dadansoddiad manwl o’r ffigurau sy’n gysylltiedig â thai gwag.


Bydd y Clerc yn ysgrifennu at awdurdod lleol Caint i ofyn am fanylion yngylch y model y mae’r awdurdod yn ei ddefnyddio i ymdrin â thai gwag.