Cyfarfodydd

Amcangyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2017-18

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/01/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2017-18

Papur 8 - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: 2il Gyllideb Atodol ar gyfer 2017-18 - Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Nododd y Pwyllgor gais cyllideb atodol yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

 


Cyfarfod: 23/11/2016 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Trafod gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch y cynnydd yn nifer y cwynion iechyd a dderbyniwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ofyn i'r clerc gysylltu â chlerc y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ôl cynnal ei sesiwn graffu a fydd yn digwydd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gasgliadau'r pwyllgor hwnnw.

 


Cyfarfod: 09/11/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus: Amcangyfrif o incwm a threuliau ar gyfer 2017-18: Ystyried yr adroddiad drafft

Papur 5 - Craffu ar Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2017-18 - Adroddiad drafft

Papur 6 - Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - gwybodaeth meincnodi yn erbyn sefydliadau perthnasol yng Nghymru a chynlluniau ombwdsmyn eraill yn y DU

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft â mân newidiadau.

 


Cyfarfod: 05/10/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Amcangyfrif o incwm a threuliau ar gyfer 2017-18: Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 05/10/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Amcangyfrif o incwm a threuliau ar gyfer 2017-18: Sesiwn dystiolaeth

Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

David Meaden, Cyfrifydd Ariannol

Susan Hudson – Rheolwr Polisi a Chyfathrebu

 

Papur 1 - Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2017-18

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Amcangyfrif o Incwm a Threuliau 2017-18 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

4.2 Cytunodd yr Ombwdsmon i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor ar feincnodi yn erbyn cyrff eraill tebyg a chynlluniau ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus.