Cyfarfodydd
NDM6526 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 11/10/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 11/10/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 11/10/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6526
Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu:
a) mai busnesau bach yw calon economaidd a chymdeithasol y
stryd fawr yng Nghymru ond bod y gyfundrefn ardrethi busnes bresennol yn rhoi
manwerthwyr mewn dinasoedd a threfi bach o dan anfantais sylweddol;
b) bod ardrethi busnes o'u hanfod yn annheg oherwydd mai
ychydig, os unrhyw, berthynas sydd rhyngddynt â phroffidioldeb busnes a'u bod
yn cael effaith iasol ar ganol trefi drwy ychwanegu costau sylweddol i'r broses
o sefydlu busnesau newydd;
c) y byddai lleihau effaith ardrethi busnes yn helpu
busnesau i oroesi'r heriau a achosir gan siopa ar y rhyngrwyd ac yn rhoi hwb
sylweddol i'r stryd fawr.
2. Yn penderfynu:
a) fel mesur dros dro, hyd nes y caiff ardrethi busnes eu
disodli gan dreth sy'n gysylltiedig â'r gallu i dalu, y dylai safleoedd busnes
sydd â gwerth ardrethol o lai na £15,000 gael eu heithrio ac y dylai cyfraddau
eiddo busnes sydd o fewn y band o £15,000 i £50,000 gael eu gostwng 20 y cant;
b) y dylai awdurdodau lleol Cymru annog masnach leol drwy
gynnig parcio am ddim am o leiaf 60 munud mewn meysydd parcio canol tref;
c) y dylai datblygiadau siopa ar gyrion y dref ysgwyddo
cyfran fwy ond rhesymol o'r baich ardrethi busnes ac y dylai cyfraddau o'r fath
fod yn berthnasol i'w meysydd parcio, i helpu i adfywio canol trefi.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd microfusnesau a busnesau bach
a chanolig i lwyddiant cymunedau ac economi ehangach Cymru.
2. Yn nodi pwysigrwydd allweddol polisïau
traws-lywodraethol sy'n cefnogi busnesau ar strydoedd mawr Cymru i ffynnu a
thyfu.
3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi
manwerthwyr y stryd fawr a busnesau eraill drwy ddarparu dros £200m o gyllid yn
2017-18 i gefnogi tua thri chwarter talwyr ardrethi yng Nghymru drwy ryddhad
ardrethi.
4. Yn cydnabod nad yw dros hanner holl fusnesau Cymru'n
talu unrhyw ardrethi o gwbl yn ystod 2017-18.
5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun
parhaol Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach sy'n fwy syml, yn fwy teg ac sy'n fwy
penodol ar gyfer busnesau sy'n tyfu yng Nghymru o fis Ebrill 2018.
[Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant
2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r penderfyniad i ddatganoli ardrethi busnes i
Lywodraeth Cymru yn llawn a'r potensial y mae hyn yn ei ddatgloi.
[Os
derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-dethol]
Gwelliant
3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn):
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes sydd â
gwerth ardrethol o hyd at £10,000 y flwyddyn, a rhoi cymorth sy'n lleihau'n
raddol i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £10,000 ac £20,000;
b) eithrio pob busnes rhag talu unrhyw ardrethi yn ystod eu
blwyddyn gyntaf o fasnachu, er mwyn annog dechrau busnesau newydd ledled Cymru;
c) cyflwyno lluosydd hollt ar gyfer busnesau bach a mawr
fel yn yr Alban a Lloegr; a
d) archwilio disodli ardrethi busnes yn gyfan gwbl gan
ffurfiau eraill o drethi nad ydynt yn rhwystro cyflogaeth, adfywio canol trefi
a buddsoddi mewn gwaith a pheiriannau.
Gwelliant
4. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi llywyddu dros y
gyfradd uchaf o eiddo gwag ar y stryd fawr ym Mhrydain Fawr yn 2017, sef 14.5 y
cant.
Gwelliant
5. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) diddymu ardrethi busnes ar gyfer yr holl fusnesau bach
sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000; a
b) diwygio'r system ardrethi busnes ac ymchwilio i hollti
lluosydd Cymru i gynyddu cystadleurwydd busnesau llai.
Gwelliant
6. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ymestyn y cyllid sydd
ar gael i gefnogi cynlluniau peilot parcio am ddim yng Nghymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.44
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6526 Caroline Jones (Gorllewin
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu:
a) mai busnesau bach yw
calon economaidd a chymdeithasol y stryd fawr yng Nghymru ond bod y gyfundrefn
ardrethi busnes bresennol yn rhoi manwerthwyr mewn dinasoedd a threfi bach o
dan anfantais sylweddol;
b) bod ardrethi busnes
o'u hanfod yn annheg oherwydd mai ychydig, os unrhyw, berthynas sydd rhyngddynt
â phroffidioldeb busnes a'u bod yn cael effaith iasol ar ganol trefi drwy
ychwanegu costau sylweddol i'r broses o sefydlu busnesau newydd;
c) y byddai lleihau
effaith ardrethi busnes yn helpu busnesau i oroesi'r heriau a achosir gan siopa
ar y rhyngrwyd ac yn rhoi hwb sylweddol i'r stryd fawr.
2. Yn penderfynu:
a) fel mesur dros dro,
hyd nes y caiff ardrethi busnes eu disodli gan dreth sy'n gysylltiedig â'r
gallu i dalu, y dylai safleoedd busnes sydd â gwerth ardrethol o lai na £15,000
gael eu heithrio ac y dylai cyfraddau eiddo busnes sydd o fewn y band o £15,000
i £50,000 gael eu gostwng 20 y cant;
b) y dylai awdurdodau
lleol Cymru annog masnach leol drwy gynnig parcio am ddim am o leiaf 60 munud
mewn meysydd parcio canol tref;
c) y dylai datblygiadau
siopa ar gyrion y dref ysgwyddo cyfran fwy ond rhesymol o'r baich ardrethi
busnes ac y dylai cyfraddau o'r fath fod yn berthnasol i'w meysydd parcio, i
helpu i adfywio canol trefi.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
43 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd
microfusnesau a busnesau bach a chanolig i lwyddiant cymunedau ac economi
ehangach Cymru.
2. Yn nodi pwysigrwydd
allweddol polisïau traws-lywodraethol sy'n cefnogi busnesau ar strydoedd mawr
Cymru i ffynnu a thyfu.
3. Yn cydnabod ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i gefnogi manwerthwyr y stryd fawr a busnesau eraill drwy
ddarparu dros £200m o gyllid yn 2017-18 i gefnogi tua thri chwarter talwyr
ardrethi yng Nghymru drwy ryddhad ardrethi.
4. Yn cydnabod nad yw
dros hanner holl fusnesau Cymru'n talu unrhyw ardrethi o gwbl yn ystod 2017-18.
5. Yn nodi bwriad
Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun parhaol Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach
sy'n fwy syml, yn fwy teg ac sy'n fwy penodol ar gyfer busnesau sy'n tyfu yng
Nghymru o fis Ebrill 2018.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
23 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod
Llywodraeth Cymru wedi llywyddu dros y gyfradd uchaf o eiddo gwag ar y stryd
fawr ym Mhrydain Fawr yn 2017, sef 14.5 y cant.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
22 |
1 |
25 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) diddymu ardrethi
busnes ar gyfer yr holl fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000;
a
b) diwygio'r system
ardrethi busnes ac ymchwilio i hollti lluosydd Cymru i gynyddu cystadleurwydd
busnesau llai.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai
Llywodraeth Cymru ymestyn y cyllid sydd ar gael i gefnogi cynlluniau peilot
parcio am ddim yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
26 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod
pwysigrwydd microfusnesau a busnesau bach a chanolig i lwyddiant cymunedau ac
economi ehangach Cymru.
2. Yn nodi pwysigrwydd
allweddol polisïau traws-lywodraethol sy'n cefnogi busnesau ar strydoedd mawr
Cymru i ffynnu a thyfu.
3. Yn cydnabod ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i gefnogi manwerthwyr y stryd fawr a busnesau eraill drwy
ddarparu dros £200m o gyllid yn 2017-18 i gefnogi tua thri chwarter talwyr ardrethi
yng Nghymru drwy ryddhad ardrethi.
4. Yn cydnabod nad yw
dros hanner holl fusnesau Cymru'n talu unrhyw ardrethi o gwbl yn ystod 2017-18.
5. Yn nodi bwriad
Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun parhaol Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach
sy'n fwy syml, yn fwy teg ac sy'n fwy penodol ar gyfer busnesau sy'n tyfu yng
Nghymru o fis Ebrill 2018.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
22 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.