Cyfarfodydd

P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad - dylid adolygu TAN 1

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad – dylid adolygu TAN 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-881 Trwsio ein system gynllunio a chytunwyd i aros am gyhoeddiad ynghylch penderfyniadau’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn dilyn yr ymgynghoriad ar y diwygiadau i adran dai Polisi Cynllunio Cymru, a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2019 cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach.

 


Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Trafod y sesiwn dystiolaeth flaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth y cyflwynodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a chytunwyd ar gamau gweithredu pellach ar bob un o'r deisebau a drafodwyd.

 


Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Sesiwn dystiolaeth: Cynllunio

·         Julie James AC  - Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

·         Neil Hemington – Pennaeth Cynllunio, Llywodraeth Cymru

·         Stephen Phipps - Swyddog Prosiectau llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad - dylid adolygu TAN 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Neil Hemington a Stephen Phipps.

 

Cytunodd y Pwyllgor i grwpio'r ddeiseb hon gyda P-05-881 Trwsio ein system gynllunio i'w thrafod yn y dyfodol, a dychwelyd at y ddwy ddeiseb unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad am y camau nesaf mewn perthynas â'i hadolygiad o ddarparu tai drwy'r system gynllunio.

 


Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad – dylid adolygu TAN 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i wahodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i fynychu sesiwn dystiolaeth gyda'r Pwyllgor yn y dyfodol i drafod hyn a sawl deiseb arall yn ymwneud â pholisi cynllunio.

 


Cyfarfod: 19/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad - dylid adolygu TAN 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

·         ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr adolygiad cyflenwi tai drwy'r system gynllunio, syniad o'r amserlenni ar gyfer cwblhau'r adolygiad, a chadarnhad y bydd paragraff 6.2 TAN 1 yn parhau i fod wedi'i ddatgymhwyso yn ystod y cyfnod hwnnw; ac

·         ystyried cynnal sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog ar sawl deiseb sy'n gysylltiedig â chynllunio mewn cyfarfod yn y dyfodol.


Cyfarfod: 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad – dylid adolygu TAN 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a chytunodd i drafod y posibilrwydd o wahodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi tystiolaeth lafar ar y ddeiseb yn y dyfodol yn ystod trafodaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad - dylid adolygu TAN 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

·         ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i:

o   rannu pryderon y deisebydd ynghylch effaith cymhwyso TAN 1 ar Gynlluniau Datblygu Lleol, yng nghyd-destun yr ymgynghoriad presennol ar Bolisi Cynllunio Drafft Cymru;

o   gofyn am ragor o wybodaeth am waith ymchwil i'r materion gyda'r penderfyniad i gyflenwi tir tai y cyfeiriwyd ato yn ei llythyr ar 6 Mawrth; 

·         trefnu sesiynau tystiolaeth lafar ar y ddeiseb ar gyfer hwyrach yn nhymor yr haf.

 


Cyfarfod: 06/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad - dylid adolygu TAN 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i anfon sylwadau manwl gan y deisebydd  at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni i'w hystyried, gan ofyn am ymateb yn benodol i'r awgrymiadau a wnaed gan y deisebydd am ffyrdd amgen posibl o gyfrifo cyflenwad tir.

 

 


Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad – dylid adolygu TAN 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ynghylch ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach i'w cymryd.