Cyfarfodydd
NDM6520 - Dadl Plaid Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 04/10/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 04/10/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 04/10/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru
NDM6520 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi bod prinder meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn peri
risgiau i ddiogelwch cleifion a'r gallu i gyflenwi gwasanaethau'n ddiogel.
2.
Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun gweithlu
effeithiol a chynaliadwy ar gyfer GIG Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
1.
Yn nodi'r effaith y gall prinder meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd
proffesiynol eraill ei chael ar ddarparu gwasanaethau.
2.
Yn croesawu ymrwymiad holl staff GIG Cymru i ddarparu gofal iechyd tosturiol o
safon uchel.
Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â sectorau perthnasol i sicrhau bod
cynllunio'r gweithlu yn digwydd mewn modd cydlynol.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.06
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6520 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod prinder
meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn peri risgiau i
ddiogelwch cleifion a'r gallu i gyflenwi gwasanaethau'n ddiogel.
2. Yn gresynu at fethiant
Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun gweithlu effeithiol a chynaliadwy ar
gyfer GIG Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
30 |
41 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi'r effaith y gall prinder meddygon, nyrsys a
gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ei chael ar ddarparu gwasanaethau.
2. Yn croesawu ymrwymiad holl staff GIG Cymru i ddarparu
gofal iechyd tosturiol o safon uchel.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
4 |
14 |
41 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â sectorau
perthnasol i sicrhau bod cynllunio'r gweithlu yn digwydd mewn modd cydlynol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
0 |
41 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6520 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r effaith y gall prinder meddygon, nyrsys a
gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ei chael ar ddarparu gwasanaethau.
2. Yn croesawu ymrwymiad holl staff GIG Cymru i ddarparu
gofal iechyd tosturiol o safon uchel.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â sectorau
perthnasol i sicrhau bod cynllunio'r gweithlu yn digwydd mewn modd cydlynol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
33 |
9 |
0 |
42 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.