Cyfarfodydd

P-05-777 Cymhwyso’r Ddeddfwriaeth Systemau Llethu Tân Awtomatig o fewn y Rheoliadau Adeiladu cyfredol ar gyfer Cymru.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-777 Cymhwyso’r ddeddfwriaeth systemau llethu tân awtomatig o fewn y rheoliadau adeiladu cyfredol ar gyfer Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith bod y Pwyllgor bellach wedi cael cadarnhad nad oes gan y Cynulliad na Llywodraeth Cymru ddim bwriad adolygu'r gofynion rheoleiddiol yn y maes hwn ar hyn o bryd.

 

 


Cyfarfod: 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-777 Cymhwyso’r ddeddfwriaeth systemau llethu tân awtomatig o fewn y rheoliadau adeiladu cyfredol ar gyfer Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ynghyd â sylwadau a gafwyd gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn a yw'n bwriadu ymgymryd ag unrhyw waith craffu ar ôl deddfu ar y Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio Rhif 3) a Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2013 yn ystod y Cynulliad hwn.

 


Cyfarfod: 17/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-777 Cymhwyso’r ddeddfwriaeth systemau llethu tân awtomatig o fewn y rheoliadau adeiladu cyfredol ar gyfer Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu effaith deddfwriaeth 2013 a'i pherthnasedd i brosiectau o'r math a ddisgrifir gan y deisebydd, a phryd y bydd yn gwneud hynny.