Cyfarfodydd

P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd nad yw'n bosibl nodi sut i symud y ddeiseb ymlaen heb gyswllt â'r deisebydd, ac oherwydd rhywfaint o'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud i gofio bywyd William Williams. 

Drwy wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd am gyflwyno'r ddeiseb ac am ei waith ar y pwnc hwn.

 

 


Cyfarfod: 07/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Rhun ap Iorwerth y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae mewn cysylltiad â'r prif ddeisebydd ynghylch y mater.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd i rannu gwybodaeth am y digwyddiad diweddar yn y Senedd a'r atebion a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, a gofyn a yw'n gwybod am unrhyw sefydliadau neu unigolion addas a allai gyflwyno cynigion pendant.

 

 


Cyfarfod: 03/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Celfyddydau Cymru i ofyn:

 

o   p’un ai fod unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau wedi cael eu cynnal yn ystod 2017 i gydnabod tri chan mlwyddiant geni William Williams;

o   os na, pa ystyriaeth roddwyd i nodi’r garreg filltir hon yn ystod y flwyddyn; ac 

o   am eu barn am y cynigion a wnaed gan y deisebydd.