Cyfarfodydd
NNDM6374 - Dadl: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 18/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
- Gweddarllediad ar gyfer 18/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 18/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)
NNDM6374
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn
nodi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU.
2.
Yn credu:
a)
ei fod yn gwbl annerbyniol ar ei ffurf bresennol; a
b)
bod rhaid cymryd pob cam angenrheidiol i ddiogelu buddiannau Cymru a sefyllfa
gyfansoddiadol a phwerau’r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys cyhoeddi bil
parhad.
‘Bil
yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)’
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant
1. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn
credu nad yw Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn unrhyw fygythiad i'r setliad datganoli
presennol.
[Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn
cydnabod bod seneddau a chynulliadau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan
o setliad democrataidd modern y Deyrnas Unedig, ac y dylid eu cynnwys yn llawn
yng ngwneuthuriad y Deyrnas Unedig sy'n ffynnu yn y dyfodol ar ôl-Brexit.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 14.37
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
NNDM6374
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU.
2. Yn credu:
a) ei fod yn gwbl annerbyniol ar ei ffurf bresennol; a
b) bod rhaid cymryd pob cam angenrheidiol i ddiogelu buddiannau Cymru a
sefyllfa gyfansoddiadol a phwerau’r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys
cyhoeddi bil parhad.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn credu nad yw Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn unrhyw fygythiad i'r
setliad datganoli presennol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
44 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod seneddau a chynulliadau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
yn rhan o setliad democrataidd modern y Deyrnas Unedig, ac y dylid eu cynnwys
yn llawn yng ngwneuthuriad y Deyrnas Unedig sy'n ffynnu yn y dyfodol ar
ôl-Brexit.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
33 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NNDM6374
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU.
2. Yn credu:
a) ei fod yn gwbl annerbyniol ar ei ffurf bresennol; a
b) bod rhaid cymryd pob cam angenrheidiol i ddiogelu buddiannau Cymru a
sefyllfa gyfansoddiadol a phwerau’r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys
cyhoeddi bil parhad.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
16 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.