Cyfarfodydd
Sesiwn Graffu ar Waith Gweinidogion - dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran adeiladu economi gref.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 14/07/2017 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 Sesiwn Graffu ar waith y Gweinidog - Dull Gweithredu Llywodraeth Cymru o ran Adeiladu Economi Gref
Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru
Gwenllian Roberts - Dirprwy Gyfarwyddwr yr Uned Ynni
Cymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 3 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (2/1)
Cofnodion:
1.1 O ystyried Datganiad Ysgrifenedig y Prif Weinidog ar Fil yr Undeb
Ewropeaidd (Ymadael), a gyhoeddwyd ar 13 Gorffennaf, gofynnodd y Pwyllgor nifer
o gwestiynau i'r Prif Weinidog am ei Ddatganiad ac ar oblygiadau'r Bil i Gymru.
1.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Prif Weinidog ynghylch dull gweithredu
Llywodraeth Cymru o ran adeiladu economi gref. Cytunodd y Prif Weinidog i
ddarparu rhagor o wybodaeth neu eglurhad i'r Pwyllgor ynghylch:
·
Pwy fyddai'n cymryd yr awenau i fynd â'r fasnachfraint rheilffyrdd yn ei
blaen pe bai'r broses gaffael yn mynd i drafferthion;
·
Cefnogaeth bellach ar gyfer y rhai sydd am greu ffynonellau newyddion
newydd;
·
Ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru annog a chefnogi staff medrus y GIG sy’n
dod i ddiwedd eu gyrfa i ysbrydoli pobl ifanc i ystyried gyrfa yn y GIG yng
Nghymru ac i drosglwyddo eu profiad, eu gwybodaeth a'u sgiliau cyn iddynt
ymddeol.