Cyfarfodydd

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2017-18

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/09/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN5 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol - Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 – 21 Gorffennaf 2017

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/09/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN7 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol - Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 – 1 Medi 2017

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/09/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN3 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid - Gwariant ar y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 - 3 Awst 2017

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18

NDM6353 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 27 Mehefin 2017.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfen ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 14 Gorffennaf 2017

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.02

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM6353 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 27 Mehefin 2017.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

20

0

51

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 13/07/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2017-18: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 3 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.

 


Cyfarfod: 05/07/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2017-18: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 05/07/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2017-18: Sesiwn dystiolaeth

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Matthew Denham-Jones - Dirprwy Gyfarwyddwr - Rheolaeth Ariannol, Llywodraeth Cymru

 

Papur 1 - Cynnig y Gyllideb Atodol Gyntaf 2017-18

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol, Llywodraeth Cymru.