Cyfarfodydd
NDM6356 - Dadl Plaid Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 05/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 05/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru
NDM6356 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
1.
Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth er mwyn cyflawni miliwn
o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
2.
Yn nodi'r adroddiad ‘Cyrraedd y Miliwn’ gan Blaid Cymru sydd yn amlinellu yn
glir rhai o'r prif flaenoriaethau strategol ar gyfer tyfu'r nifer o siaradwyr
Cymraeg yng Nghymru i filiwn erbyn 2050.
3.
Yn galw am weithredu gan y Llywodraeth i:
a)
gynllunio ar gyfer twf sylweddol, a normaleiddio, addysg a gofal plant cyfrwng
Cymraeg;
b)
sicrhau bod ystyriaethau i'r iaith yn rhan annatod o gynllunio economaidd fel
rhan o gynnal y cyfundrefnau cynhaliol cyfredol a'r angen i hyn gael ei
adlewyrchu yn strategaeth economaidd arfaethedig Llywodraeth Cymru;
c)
gryfhau rôl Comisiynydd y Gymraeg i reoleiddio a hyrwyddo hawliau siaradwyr
Cymraeg ac ehangu safonau'r Gymraeg i’r sector breifat gan gynnwys y sector
delathrebu, banciau ac archfarchnadoedd;
d)
sefydlu asiantaeth hyd-braich newydd i hyrwyddo'r iaith ym meysydd addysg, y
gymuned a'r economi.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu
popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn
nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn at ddibenion ymgynghori'r
haf yma ar y ddarpariaeth ar gyfer Bil y Gymraeg newydd.
Yn
cydnabod y camau sydd eisoes wedi'u cymryd i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r
Gymraeg ar draws cymunedau a gweithleoedd, mewn lleoliadau ffurfiol ac
anffurfiol.
Yn
croesawu sefydlu bwrdd cynllunio er mwyn ymgynghori ar raglen genedlaethol i
hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.
[Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 2.
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu
popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn
credu y bydd mynd yn groes i farn gyhoeddus leol yn cyfyngu ar unrhyw obaith
fydd gan strategaeth Llywodraeth Cymru o lwyddo i gyrraedd miliwn o siaradwyr
Cymraeg erbyn 2050.
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau:
a)
bod unrhyw newidiadau i addysg bresennol cyfnodau allweddol 1 i 5 a darpariaeth
gofal plant yn cynnwys ymgynghoriad lleol gwirioneddol:
i)
gyda'r holl ymatebwyr yn darparu eu henwau, cyfeiriadau a chodau post; a
ii)
gyda'r holl unigolion a enwir mewn deiseb a gyflwynir yn cael eu cofnodi fel
sylwadau ar wahân; a
b)
na roddir blaenoriaeth i farn trydydd parti, asiantau na chomisiynwyr, gan
gynnwys y rhai sy'n awgrymu eu bod yn cynnig cyngor arbenigol ar y ddarpariaeth
Gymraeg, dros ddymuniadau trigolion lleol a rhieni.
[Os
derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3, 4, 5 a 6 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 3.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu
3(b) a rhoi yn ei le:
ystyried
y ffordd orau o hyrwyddo caffael a defnyddio sgiliau Cymraeg fel rhan annatod
o'i strategaeth economaidd.
Gwelliant 4.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu
3(c) a rhoi yn ei le:
adolygu
rôl Comisiynydd y Gymraeg a sicrhau bod y Comisiynydd yn atebol i Gynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Gwelliant 5.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys
is-bwynt newydd ar ôl 3(c) ac ailrifo yn unol â hynny:
ystyried
diben ac effeithiolrwydd safonau'r Gymraeg cyn unrhyw gynnig i ehangu eu
cymhwyso i'r sector preifat.
Gwelliant 6.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu
3(d) a rhoi yn ei le:
mabwysiadu
model newydd, y tu allan i'r llywodraeth, ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg ym
meysydd addysg, y gymuned a'r economi.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.26
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6356 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
1.
Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth er mwyn cyflawni miliwn
o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
2.
Yn nodi'r adroddiad ‘Cyrraedd y Miliwn’ gan Blaid Cymru sydd yn amlinellu yn
glir rhai o'r prif flaenoriaethau strategol ar gyfer tyfu'r nifer o siaradwyr
Cymraeg yng Nghymru i filiwn erbyn 2050.
3.
Yn galw am weithredu gan y Llywodraeth i:
a)
gynllunio ar gyfer twf sylweddol, a normaleiddio, addysg a gofal plant cyfrwng
Cymraeg;
b)
sicrhau bod ystyriaethau i'r iaith yn rhan annatod o gynllunio economaidd fel
rhan o gynnal y cyfundrefnau cynhaliol cyfredol a'r angen i hyn gael ei
adlewyrchu yn strategaeth economaidd arfaethedig Llywodraeth Cymru;
c)
gryfhau rôl Comisiynydd y Gymraeg i reoleiddio a hyrwyddo hawliau siaradwyr
Cymraeg ac ehangu safonau'r Gymraeg i’r sector breifat gan gynnwys y sector
delathrebu, banciau ac archfarchnadoedd;
d)
sefydlu asiantaeth hyd-braich newydd i hyrwyddo'r iaith ym meysydd addysg, y
gymuned a'r economi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
7 |
0 |
43 |
50 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu
popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn
nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn at ddibenion ymgynghori'r
haf yma ar y ddarpariaeth ar gyfer Bil y Gymraeg newydd.
Yn
cydnabod y camau sydd eisoes wedi'u cymryd i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r
Gymraeg ar draws cymunedau a gweithleoedd, mewn lleoliadau ffurfiol ac
anffurfiol.
Yn
croesawu sefydlu bwrdd cynllunio er mwyn ymgynghori ar raglen genedlaethol i
hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
23 |
50 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i
dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 eu dad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM6356 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
1.
Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth er mwyn cyflawni miliwn
o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
2.
Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn at ddibenion
ymgynghori'r haf yma ar y ddarpariaeth ar gyfer Bil y Gymraeg newydd.
3.
Yn cydnabod y camau sydd eisoes wedi'u cymryd i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd
o'r Gymraeg ar draws cymunedau a gweithleoedd, mewn lleoliadau ffurfiol ac
anffurfiol.
4.
Yn croesawu sefydlu bwrdd cynllunio er mwyn ymgynghori ar raglen genedlaethol i
hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
18 |
6 |
50 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.