Cyfarfodydd
NDM6354 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 05/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 05/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6354 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod pwysigrwydd cynlluniau adfywio o ran gwella ffyniant cymunedau
ledled Cymru ar gyfer y dyfodol.
2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae'n bwriadu ennyn hyder
buddsoddwyr ar gyfer prosiectau adfywio.
3.
Yn gresynu at y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phrosiect
Cylchffordd Cymru ac yn credu y gallai hyn gael effaith negyddol ar fuddsoddiad
posibl ar gyfer prosiectau adfywio yng Nghymru yn y dyfodol.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
1.
Yn cydnabod pwysigrwydd cynlluniau adfywio sy'n gweithio mewn partneriaeth ag
ymyriadau fel datblygu seilwaith, creu swyddi o safon uchel yn ogystal â
sgiliau a chyflogadwyedd er mwyn gwella ffyniant cymunedau ar draws Cymru at y
dyfodol.
2.
Yn croesawu sefydlu'r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, sy'n anelu at
sicrhau adfywio effeithiol ar draws y rhanbarth ynghyd â seilwaith cadarn a
chysylltiol; gwell mynediad at swyddi o safon uchel a datblygu sgiliau.
3.
Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £100m dros ddeng mlynedd mewn Parc
Busnes Technoleg Fodurol yng Nglynebwy er mwyn hybu twf economaidd ar draws
Blaenau'r Cymoedd.
4.
Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill wrth fwrw ymlaen â Bargen
Dwf Gogledd Cymru er mwyn hybu twf economaidd ar draws ffiniau.
Gwelliant 2.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gwrdd â phob parti perthnasol er mwyn archwilio
atebion posibl i'r materion y cyfeirir atynt yn ei datganiad ar Gylchffordd
Cymru ar 27 Mehefin 2017 i ennyn hyder buddsoddwyr y dyfodol.
Gwelliant 3.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i sefydlu ymchwiliad annibynnol llawn i'r
ffordd yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â phrosiect Cylchffordd Cymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.20
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6354
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod
pwysigrwydd cynlluniau adfywio o ran gwella ffyniant cymunedau ledled Cymru ar
gyfer y dyfodol.
2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i amlinellu sut y mae'n bwriadu ennyn hyder buddsoddwyr ar gyfer
prosiectau adfywio.
3. Yn gresynu at y
ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phrosiect Cylchffordd Cymru ac yn
credu y gallai hyn gael effaith negyddol ar fuddsoddiad posibl ar gyfer
prosiectau adfywio yng Nghymru yn y dyfodol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
34 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
1. Yn cydnabod
pwysigrwydd cynlluniau adfywio sy'n gweithio mewn partneriaeth ag ymyriadau fel
datblygu seilwaith, creu swyddi o safon uchel yn ogystal â sgiliau a
chyflogadwyedd er mwyn gwella ffyniant cymunedau ar draws Cymru at y dyfodol.
2. Yn croesawu sefydlu'r
Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, sy'n anelu at sicrhau adfywio
effeithiol ar draws y rhanbarth ynghyd â seilwaith cadarn a chysylltiol; gwell
mynediad at swyddi o safon uchel a datblygu sgiliau.
3. Yn nodi bwriad
Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £100m dros ddeng mlynedd mewn Parc Busnes
Technoleg Fodurol yng Nglynebwy er mwyn hybu twf economaidd ar draws Blaenau'r
Cymoedd.
4. Yn nodi gwaith
Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill wrth fwrw ymlaen â Bargen Dwf Gogledd
Cymru er mwyn hybu twf economaidd ar draws ffiniau.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
23 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gwrdd â phob parti perthnasol er mwyn archwilio atebion posibl i'r materion y
cyfeirir atynt yn ei datganiad ar Gylchffordd Cymru ar 27 Mehefin 2017 i ennyn
hyder buddsoddwyr y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
27 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymrwymo i sefydlu ymchwiliad annibynnol llawn i'r ffordd yr ymdriniodd
Llywodraeth Cymru â phrosiect Cylchffordd Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
27 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6354
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd
cynlluniau adfywio sy'n gweithio mewn partneriaeth ag ymyriadau fel datblygu
seilwaith, creu swyddi o safon uchel yn ogystal â sgiliau a chyflogadwyedd er
mwyn gwella ffyniant cymunedau ar draws Cymru at y dyfodol.
2. Yn croesawu sefydlu'r
Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, sy'n anelu at sicrhau adfywio
effeithiol ar draws y rhanbarth ynghyd â seilwaith cadarn a chysylltiol; gwell
mynediad at swyddi o safon uchel a datblygu sgiliau.
3. Yn nodi bwriad
Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £100m dros ddeng mlynedd mewn Parc Busnes
Technoleg Fodurol yng Nglynebwy er mwyn hybu twf economaidd ar draws Blaenau'r
Cymoedd.
4. Yn nodi gwaith
Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill wrth fwrw ymlaen â Bargen Dwf Gogledd
Cymru er mwyn hybu twf economaidd ar draws ffiniau.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
16 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.