Cyfarfodydd
Adolygiad o'r cymorth staffio i’r Aelodau
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 02/04/2020 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Newid i Weithdrefnau Disgyblu a Chwyno’r staff cymorth
·
Ymatebion
i'r ymgynghoriad – Papur 4
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
1.1
Trafododd
y Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i'w ymgynghoriad. Penderfynodd y Bwrdd
weithredu’r newidiadau i Weithdrefnau Disgyblu a Chwyno’r staff cymorth.
Cytunodd y Bwrdd y dylai'r newidiadau ddod i rym ar unwaith.
Cam gweithredu:
-
Yr
ysgrifenyddiaeth i ddiwygio’r Gweithdrefnau a’u cyflwyno i’r Aelodau a’r staff
cymorth.
Cyfarfod: 27/02/2020 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem ar gyfer penderfyniad: Adolygiad o’r llawlyfr staff cymorth
·
Papur
cwmpasu’r adolygiad – Papur 4, Atodiadau 1 - 6
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
- Cyfyngedig 6
- Cyfyngedig 7
- Cyfyngedig 8
- Cyfyngedig 9
- Cyfyngedig 10
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
2.1
Croesawodd y Bwrdd Joanna Adams i'r
cyfarfod.
2.2
Trafododd y Bwrdd gwmpas adolygiad
o'r llawlyfr i staff cymorth.
2.3
Cytunodd y Bwrdd, yn dilyn
trafodaeth ar yr adolygiad o'r llawlyfr, y byddai'n briodol adnewyddu'r
contract presennol i adlewyrchu'r newidiadau i’r llawlyfr. Byddai hyn yn
sicrhau eu bod yn gydnaws â’i gilydd a'u bod yn addas ar gyfer y Chweched
Senedd.
2.4
Nododd y Bwrdd y byddai Cymorth
Busnes i’r Aelodau yn trafod hyn ymhellach gyda'r Grwpiau Cynrychiolwyr dros yr
wythnosau nesaf.
Cyfarfod: 27/02/2020 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)
Eitem ar gyfer penderfyniad: Yswiriant Atebolrwydd Arferion Cyflogaeth
·
Papur
trosolwg – Papur 7
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
5.1
Bu'r Bwrdd yn ystyried ac yn trafod
opsiynau a chostau ar gyfer darparu yswiriant Atebolrwydd Arferion Cyflogaeth
yr Aelodau.
5.2
Cytunodd y Bwrdd i gynnal y trefniadau
yswiriant presennol.
Cam gweithredu:
-
Cytunodd
y Bwrdd i ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad yn nodi y bydd y trefniadau
yswiriant cyfredol yn cael eu cynnal ac y bydd cost yr yswiriant Atebolrwydd
Arferion Cyflogaeth yn cael ei thalu gan Gomisiwn y Cynulliad.
Cyfarfod: 21/11/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem i’w thrafod: Adolygiad chwe mis o hyblygrwydd y lwfansau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
2.1 Trafododd y
Bwrdd adolygiad chwe mis o hyblygrwydd y lwfansau staff yn dilyn y broses o roi
newidiadau ar waith, gan gynnwys dileu’r cap 111 awr ar gyflogi staff a
gyflogir yn barhaol, cyllidebu costau cyflogau ar sail costau gwirioneddol, a
newidiadau i'r opsiynau i drosglwyddo cyllid sydd ar gael i'r Aelodau.
2.2 Cytunodd y
Bwrdd y byddai’n cynnal adolygiad pellach ym mis Ebrill 2020 er mwyn gwneud
gwaith monitro pellach ar natur effaith y newidiadau.
2.3 Cytunodd y
Bwrdd y byddai’n newid y geiriad ar drosglwyddiadau yn y Penderfyniad er mwyn
sicrhau bod y ddarpariaeth yn fwy clir.
Cyfarfod: 23/05/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i'w thrafod: Adolygiad chwe mis o hyblygrwydd lwfansau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
Cofnodion:
3.1
Trafododd
y Bwrdd adolygiad chwe mis o hyblygrwydd lwfansau staffio yn dilyn gweithredu
newidiadau a oedd yn cynnwys cael gwared ar y cap 111 awr ar gyflogi staff
parhaol, cyllidebu costau cyflogau yn ôl y costau gwirioneddol, a newidiadau
i'r opsiynau trosglwyddo sydd ar gael i Aelodau.
3.2
Cytunodd y
Bwrdd i gynnal adolygiad pellach ym mis Tachwedd a mis Ionawr i ganiatáu i'r
newidiadau gael mwy o amser i gael effaith. Cytunodd y Bwrdd i gynnal
ymgynghoriad pellach os oes angen unrhyw newid o ganlyniad i'r ystyriaethau hyn
yn y dyfodol.
Cyfarfod: 23/05/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adroddiad drafft ar yr adolygiad o'r cymorth staffio i'r Aelodau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
- Cyfyngedig 24
Cofnodion:
6.1 Trafododd
a chytunodd y Bwrdd ei adroddiad drafft ar yr adolygiad o'r cymorth staffio i
Aelodau, yn amodol ar fân newidiadau.
6.2
Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi'r adroddiad yn fuan.
Cyfarfod: 17/01/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem i benderfynu yn ei chylch: Adolygiad o’r cymorth staffio i’r Aelodau a’r gweithdrefnau disgyblu a chwyno: Trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 27
- Cyfyngedig 28
Cofnodion:
Adolygiad o'r cymorth staffio i'r Aelodau
2.1
Trafododd y Bwrdd yr
ymatebion a ddaeth i law ynghylch ei gynigion i ddiwygio'r trefniadau ariannu i
gyflogi aelodau o'r teulu (cynigion un a dau yn yr ymgynghoriad).
2.2.
Ar ôl ystyried yr
ymatebion ochr yn ochr ag amcanion statudol y Bwrdd, gan wneud hynny’n ofalus
ac â meddwl agored, cytunodd y Bwrdd i
ddiwygio’i gynigion gwreiddiol mewn perthynas â’r trefniadau ariannu ar
gyfer cyflogi aelodau o'r teulu.
2.3.
Cytunodd y Bwrdd i
ofyn am ragor o gyngor cyn rhoi unrhyw newidiadau ar waith o ran y
trefniadau ariannu i gyflogi aelodau o’r teulu.
2.4.
Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a ddaeth i law mewn perthynas â’i gynigion i ddiwygio
telerau ac amodau staff cymorth (cynigion tri, pedwar a phump) a chytunodd i
gyflwyno’r newidiadau ganlyn o 1 Ebrill 2019 ymlaen
-
addasu cyflogau staff
cymorth ym mis Ebrill bob blwyddyn yn ôl y newid yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau
ac Enillion (ASHE)
-
cyflwyno diwrnodau braint
ar gyfer staff cymorth;
-
cyflwyno polisi newydd i
ganiatáu i staff cymorth fedru hawlio absenoldeb tosturiol.
2.5 Cytunodd y Bwrdd y dylai'r ysgrifenyddiaeth gydweithio ar ei ran â
chynrychiolwyr staff cymorth i sicrhau bod y polisi absenoldeb tosturiol yn
addas i'r diben.
Camau i’w cymryd
Bydd yr ysgrifenyddiaeth
yn:
-
ceisio rhagor o gyngor
ynghylch penderfyniad y Bwrdd i gyflwyno’r newidiadau arfaethedig i gynigion un
a dau;
-
gweithio gyda staff
cymorth i ddatblygu'r polisi absenoldeb tosturiol;
-
rhoi gwybod i'r Aelodau
a'r staff cymorth am y newidiadau arfaethedig unwaith y bydd penderfyniad y
Bwrdd yn derfynol;
-
paratoi Penderfyniad
diwygiedig i'w gyhoeddi ym mis Ebrill 2019.
Adolygiad o'r Gweithdrefnau Disgyblu a Chwyno
2.6
Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a
ddaeth i law mewn perthynas â chynigion chwech a saith a chytunodd i ddiwygio'r
ddwy weithdrefn i sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn cyd-fynd â pholisi Urddas a
Pharch y Cynulliad.
2.7
Cytunodd y Bwrdd y dylai'r
ysgrifenyddiaeth gydweithio â chynrychiolwyr staff cymorth ar ei ran i sicrhau
bod y gweithdrefnau'n addas i'r diben.
Camau i’w cymryd
Bydd yr ysgrifenyddiaeth
yn:
-
gweithio gyda staff
cymorth i ddatblygu'r gweithdrefnau;
-
rhoi gwybod i'r Aelodau
a'r staff cymorth am y newidiadau arfaethedig unwaith y bydd penderfyniad y
Bwrdd yn derfynol.
Cyfarfod: 11/10/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Cymorth Staffio ar gyfer Aelodau’r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 31
- Cyfyngedig 32
- Cyfyngedig 33
Cofnodion:
2.1.
Trafododd y Bwrdd y
dystiolaeth a gafwyd fel rhan o'r adolygiad a chytunodd ar yr eitemau a ganlyn:
-
pa faterion y byddai'n eu
gohirio tan ei adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad;
-
pa faterion y byddai'n
ymgynghori arnynt fel rhan o'r adolygiad hwn;
-
y camau nesaf yn dilyn ei
ymgynghoriad ar hyblygrwydd y lwfansau sy'n ymwneud â'r Lwfans Cymorth i
Bleidiau Gwleidyddol.
Materion i'w hystyried o fewn ffrydiau gwaith eraill y
Bwrdd
2.2.
Trafododd y Bwrdd y
dystiolaeth a gafwyd ar nifer o faterion, a chytunodd y byddai rhai o'r
materion hyn yn cael eu hystyried fel rhan o'i adolygiad o'r Penderfyniad ar
gyfer y Chweched Cynulliad.
Cam gweithredu:
Y Bwrdd i
drafod y dystiolaeth a gafwyd fel rhan o'i adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer
y Chweched Cynulliad.
Ymgynghori ar y materion sy'n weddill
2.3.
Trafododd y Bwrdd y
dystiolaeth a gafwyd ynghylch y darpariaethau canlynol:
-
cyllid ar gyfer cyflogi
aelodau o'r teulu;
-
amodau a thelerau staff
cymorth;
-
cyflogau staff cymorth.
2.4.
Cytunodd y Bwrdd ei fod
wedi cael digon o dystiolaeth ar y materion hyn i ymgynghori ar nifer o
gynigion i ddiwygio'r darpariaethau a amlinellir isod:
-
cael gwared ar y cyllid i
Aelodau'r Cynulliad gyflogi aelodau o'r teulu a phartneriaid o'r diddymiad
nesaf;
-
cael gwared ar y cyllid
ar gyfer unrhyw aelodau teulu newydd a benodwyd (neu a ddyrchafwyd neu y
newidiwyd eu contract cyfredol) ar ôl 24 Hydref 2018;
-
addasu cyflogau'r staff
cymorth ym mis Ebrill bob blwyddyn yn ôl y newid yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau
ac Enillion;
-
cyflwyno diwrnodau braint
ar gyfer staff cymorth;
-
cyflwyno polisi
absenoldeb tosturiol newydd ar gyfer y staff cymorth.
2.5.
Y dyddiad cau ar gyfer yr
ymgynghoriad fyddai 13 Rhagfyr 2018.
Camau gweithredu
Bydd yr
ysgrifenyddiaeth yn:
-
cyhoeddi ac yn hyrwyddo'r
ymgynghoriad;
-
paratoi crynodeb o'r
ymatebion i'r Bwrdd ei ystyried.
Ymgynghori ar hyblygrwydd y lwfansau sy'n ymwneud â'r
Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol
2.6.
Trafododd y Bwrdd yr
ymatebion i'r ymgynghoriad a chytunodd y dylid gweithredu'r newidiadau a
ganlyn:
-
dileu'r ddarpariaeth yn y
Penderfyniad ar gyfer unrhyw drosglwyddiadau newydd o arian o Lwfans Staffio'r
Aelod i'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol o 1 Hydref. O ran yr Aelodau
hynny sy'n trosglwyddo arian o'u Lwfans Staffio i'w Lwfansau Pleidiau
Gwleidyddol ar hyn o bryd, rhoddir caniatâd iddynt barhau i drosglwyddo'r un
swm bob blwyddyn tan ddiwedd y Pumed Cynulliad;
-
cyllidebu'r Lwfans
Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol yn ôl pwyntiau talu gwirioneddol o 1 Ebrill
2019;
-
cyhoeddi gwariant pob
Plaid Wleidyddol o’i Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol o 1 Ebrill 2019.
Camau gweithredu:
Bydd yr
ysgrifenyddiaeth yn:
-
hysbysu'r Aelodau a'r
staff cymorth o'r newidiadau sydd i ddod;
-
paratoi Penderfyniad
diwygiedig ar gyfer ei gyhoeddi.
Cyfarfod: 11/10/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Cwmpas yr adolygiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 36
Cofnodion:
3.1.
Trafododd y Bwrdd ei
flaenraglen waith ar gyfer adolygu ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched
Cynulliad, a fyddai'n bodloni ei amcan o ran cyhoeddi'r Penderfyniad ym mis Mai
2020, blwyddyn cyn yr etholiad nesaf. Cytunodd y Bwrdd ar y flaenraglen waith
hon.
3.2.
Nododd y Bwrdd y gallai
agenda diwygio etholiadol y Cynulliad effeithio ar ei raglen waith, a chytunodd
i fonitro datblygiad y gwaith hwn.
3.3.
Cytunodd y Bwrdd i rannu
gwybodaeth bellach ynglŷn â'r rhaglen waith gydag Aelodau a staff cymorth,
gan gynnwys manylion ynghylch sut y gallant rannu eu sylwadau â'r Bwrdd, maes o
law.
Camau gweithredu:
Bydd yr
ysgrifenyddiaeth yn:
-
monitro datblygiad agenda
diwygio etholiadol y Cynulliad;
-
rhannu gwybodaeth bellach
gydag Aelodau a staff cymorth pan fo'n briodol.
Cyfarfod: 24/05/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i'w thrafod: Adolygiad o gefnogaeth staffio i’r Aelodau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 39
- Cyfyngedig 40
- Cyfyngedig 41
Cofnodion:
Ymgynghori
ar hyblygrwydd y lwfansau i Aelodau’r Cynulliad
3.1.
Trafododd
y Bwrdd yr ymatebion i'r ymgynghoriad a chytunodd i weithredu'r newidiadau
canlynol o 1 Hydref 2018:
- dileu'r terfyn o 111 o oriau ar
staff a gyflogir yn barhaol;
- caniatáu i'r Aelodau drosglwyddo hyd
at 25 y cant o'u Lwfans Costau Swyddfa a'r arian llawn gan y Gronfa Polisi,
Ymchwil a Chyfathrebu yn eu Lwfans Staffio.
3.2.
Cytunodd
y Bwrdd gan y byddai'r newidiadau i'r weithdrefn trosglwyddo ariannol yn cael eu
gweithredu hanner ffordd drwy'r flwyddyn ariannol, byddai'r swm sydd ar gael
i'w drosglwyddo yn pro rata ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19.
3.3.
Cytunodd
y Bwrdd i gyfrifo'r balans sy'n weddill o'r Lwfans Staffio ar y gost
wirioneddol yn hytrach na chyfanswm y gost uchaf fel yw'r arfer ar hyn o bryd.
Byddai'r newid hwn yn cael ei weithredo o 1 Ebrill 2019 er mwyn caniatáu i roi
systemau priodol ar waith i helpu Aelodau i reoli unrhyw anwadalrwydd yn y
gyllideb.
3.4.
Cytunodd
y Bwrdd hefyd i gyhoeddi gwariant pob Aelod unigol ar ei Lwfans Staffio ar
ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Bydd yr un weithdrefn a ddefnyddir i gyhoeddi
gwariant arall yn erbyn pob Aelod unigol yn cael ei dilyn er mwyn cyhoeddi'r
wybodaeth. Pe bai Aelod ond yn cyflogi un aelod o staff cymorth o fewn y
flwyddyn ariannol, ni fydd y wybodaeth honno'n cael ei chyhoeddi.
3.5.
Cytunodd
y Bwrdd i roi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad mewn unrhyw ddeunydd y
bydd yn ei gynhyrchu ar ddiwedd yr adolygiad.
Camau
gweithredu
Yr
ysgrifenyddiaeth i:
- roi gwybod i Aelodau a staff cymorth
am y newidiadau sydd i ddod;
- paratoi Penderfyniad diwygiedig i'w
gyhoeddi ym mis Hydref 2018;
- paratoi canllawiau ar gyfer Aelodau
a staff cymorth.
Ymgynghori
ar hyblygrwydd y lwfansau i Bleidiau Gwleidyddol
3.6.
Trafododd
y Bwrdd oblygiadau'r newidiadau hyn ar y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol
a chytunodd i ymgynghori ar y cynigion a ganlyn:
- cyllidebu Lwfans Cymorth i Bleidiau
Gwleidyddol ar bwyntiau cyflog gwirioneddol;
- cyhoeddi’r gwariant y mae pob Plaid
Wleidyddol yn ei wneud ar ei Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol;
- cael gwared ar y ddarpariaeth yn y
Penderfyniad sy'n caniatáu ar gyfer trosglwyddo unrhyw arian newydd o Lwfans
Staffio yr Aelod i'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol.
3.7.
Y
dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fyddai 20 Gorffennaf 2018.
3.8.
Cytunodd
y Bwrdd i edrych eto ar y materion eraill a nodir yn ystod yr adolygiad yn
ystod tymor yr hydref.
Camau
gweithredu
Yr
ysgrifenyddiaeth i:
- gyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;
- paratoi crynodeb o'r ymatebion er
mwyn i'r Bwrdd eu hystyried.
Cyfarfod: 15/03/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad o gefnogaeth staffio i’r Aelodau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 44
- Cyfyngedig 45
Cofnodion:
5.1.
Trafododd
y Bwrdd y dystiolaeth a ddaeth i law hyd yma ar gyfer adolygu cymorth staffio i
Aelodau. Trafododd y Bwrdd pa faterion a allai fod angen eu hystyried ymhellach
a pha faterion y gellid mynd i'r afael â nhw yn gynt.
5.2.
Cytunodd
y Bwrdd i ymgynghori ar y materion canlynol ar unwaith:
- cyllidebu Lwfans Staffio ar bwyntiau
cyflog gwirioneddol;
- cyhoeddi'r gwariant y mae pob Aelod
unigol yn ei wneud ar eu Lwfans Staffio;
- dileu'r cap o 111 awr ar gyfer staff
cymorth a gyflogir yn barhaol;
- cynyddu'r hyblygrwydd o drosglwyddo
arian rhwng cyllidebau.
5.3.
Y
dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fyddai dydd Gwener 11 Mai 2018.
5.4.
Cytunodd
y Bwrdd i edrych eto ar faterion eraill a nodwyd yn ystod yr adolygiad yn ei
gyfarfod ym mis Mai.
Camau
i'w cymryd
Yr
ysgrifenyddiaeth i:
-
gyhoeddi
a hyrwyddo'r ymgynghoriad;
-
paratoi
crynodeb o'r ymatebion er mwyn i'r Bwrdd eu hystyried.
Cyfarfod: 25/01/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem i'w thrafod: Adolygiad o gefnogaeth staffio i’r Aelodau Trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
2.1
Ystyriodd
y Bwrdd y dystiolaeth yr oedd wedi'i chlywed hyd yn hyn mewn perthynas â chylch
gorchwyl yr adolygiad.
2.2
Cytunodd
y Bwrdd i drefnu rhagor o gyfweliadau â’r Aelodau a’r staff cymorth, os oeddynt
ar gael, i sicrhau bod ei sampl yn gynrychiadol o'r ddau grŵp.
Camau gweithredu:
Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd i:
-
gysylltu
â swyddfeydd yr Aelodau i bennu dyddiadau cyfweld cyfleus;
-
paratoi
crynodeb thematig o'r holl dystiolaeth a ddaeth i law hyd yn hyn er mwyn i’r
Bwrdd ei ystyried yn ei gyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 25/01/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Adolygiad o’r gefnogaeth staffio i’r Aelodau: Digwyddiad ymgysylltu â’r Staff Cymorth
Cofnodion:
4.1
Ystyriodd
y Bwrdd y materion a godwyd yn ystod ei ddigwyddiad ymgysylltu â’r staff cymorth.
Cyfarfod: 23/11/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i benderfynu arni: Adolygiad o’r cymorth staffio ar gyfer yr Aelodau: Cynigion ar gyfer casglu data
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 52
- Cyfyngedig 53
Cofnodion:
3.1 Nododd y Bwrdd y flaenraglen
waith ddiwygiedig ar gyfer yr adolygiad.
3.2 Ystyriodd y Bwrdd a chytunodd
ar y cwestiynau drafft i’w defnyddio yn ystod y cyfweliadau un-i-un gydag
Aelodau a Staff Cymorth i lywio’r adolygiad. Nododd y Bwrdd y byddai’r rhai a
wahoddwyd i gyfweliad yn cynrychioli demograffeg Aelodau a Staff Cymorth yn
fras.
3.3 Cytunodd y Bwrdd y dylai’r
cwestiynau ar gyfer y cyfweliad hefyd ffurfio arolwg a fyddai’n agored i’r holl
Aelodau a’u Staff Cymorth eu cwblhau. Nododd y Bwrdd y dylai’r arolwg fod ar
gael yn electronig ac mewn copi caled.
3.4 Cytunodd y Bwrdd y dylai’r
cwestiynau ar gyfer y cyfweliad a’r arolwg gael eu treialu gyda’r Grwpiau
Cynrychiolwyr.
3.5 Cytunodd y Bwrdd i gynnal
digwyddiad gwybodaeth dros dro ar gyfer Staff Cymorth i drafod yr adolygiad.
Camau gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i:
- baratoi
fersiynau terfynol o sgript y cyfweliad a’r arolwg, a’u hail-ddosbarthu’n
electronig i’r Bwrdd i’w hadolygu;
- treialu’r
cwestiynau gyda’r Grwpiau Cynrychiolwyr;
- lansio’r
arolwg yn gynnar ym mis Rhagfyr;
- nodi
ffyrdd arloesol o annog Aelodau a Staff Cymorth i gwblhau’r arolwg;
- trefnu
i’r cyfweliadau ddigwydd ym mis Ionawr; a
- threfnu
digwyddiad gwybodaeth dros dro ar gyfer Staff Cymorth ym mis Ionawr i drafod yr
adolygiad.
Cyfarfod: 12/10/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Cytuno ar bapur cwmpasu ar gyfer yr adolygiad o strwythur gyrfa a thelerau ac amodau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 56
Cofnodion:
3.1.
Trafododd y Bwrdd y papur cwmpasu ar gyfer yr adolygiad.
3.2.
Er mwyn cyfrannu at y drafodaeth, rhannodd aelodau'r Bwrdd y themâu
allweddol a gododd yn eu trafodaethau â staff cymorth sy'n gweithio mewn
swyddfeydd etholaeth a swyddfeydd rhanbarthol, ac â Grwpiau Cynrychioli
Aelodau'r Cynulliad a staff cymorth Aelodau'r Cynulliad.
3.3.
Cytunodd y Bwrdd:
- ar gylch gorchwyl yr adolygiad, yn
amodol rai mân newidiadau;
- i ailenwi'r adolygiad yn 'Adolygiad
o'r cymorth staffio i'r Aelodau';
- ar strwythur a dull gweithredu'r
adolygiad, a'r amserlen a ragwelir ar ei gyfer; ac
-
y gall fod angen ailedrych ar rai o argymhellion yr adolygiad wrth
baratoi'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad, i adlewyrchu unrhyw
ddiwygiadau posibl i'r Cynulliad.
Cam gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i drefnu cam nesaf y gwaith casglu
data, er mwyn cyfrannu at yr adolygiad.
Cyfarfod: 12/07/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i'w drafod: Adolygiad o strwythur gyrfa a thelerau ac amodau Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 59
- Cyfyngedig 60
Cofnodion:
3.1
Trafododd y Bwrdd y papur yn amlinellu sut y gallai strwythuro ei adolygiad o
strwythur gyrfa a thelerau ac amodau Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad.
Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio amrywiaeth o dystiolaeth i lywio'r adolygiad, gan
gynnwys canlyniadau'r arolwg diweddar.
3.2
Cytunodd y Bwrdd i ddychwelyd at y mater yn ei gyfarfod ym mis Hydref.
Camau
gweithredu:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth
yn paratoi papur cwmpasu diwygiedig i'r Bwrdd ei ystyried yn ei gyfarfod ym mis
Hydref.