Cyfarfodydd
P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 41 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 20.04.18 Gohebiaeth – Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda at y Cadeirydd (Saesneg yn unig) , Eitem 3 PDF 147 KB
- 20.04.18 Gohebiaeth – Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda at y Cadeirydd – adroddiad ymweliad menywod a phlant (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 486 KB
- 20.04.18 Gohebiaeth – Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda at y Cadeirydd – crynodeb o’r dystiolaeth i’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (Saesneg yn unig) , Eitem 3 PDF 655 KB
- Briff Ymchwil (Saesneg yn unig) , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/5)
- 08.05.18 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig) , Eitem 3 PDF 110 KB Gweld fel HTML (3/6) 8 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda ynghyd â sylwadau
pellach gan y deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail y cafodd
y newidiadau gwasanaeth y cyfeiriwyd atynt eu gwneud yn 2014 ac ymddengys nad
oes fawr o botensial realistig i'r rhain gael eu gwrthdroi, yn enwedig yn sgil
y cynigion diweddar ar gyfer ailgyflunio gwasanaethau iechyd yng ngorllewin
Cymru a'r wybodaeth a ddarparwyd gan y Cyngor Iechyd Cymuned.
Cyfarfod: 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 41 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 09.02.18 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda at y Cadeirydd (Saesneg yn unig) , Eitem 3 PDF 2 MB
- 21.02.18 Gohebiaeth - Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig) , Eitem 3 PDF 35 KB Gweld fel HTML (3/3) 8 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghyd
â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:
- ysgrifennu
at y Cyngor Iechyd Cymuned i ofyn am ei farn ar y materion a godwyd gan y
ddeiseb; a
- cheisio
rhagor o wybodaeth i wirio'r datganiad a wnaed gan y bwrdd iechyd bod
nifer y marw-enedigaethau ar draws ei ardal ers 2015 "yn cymharu'n
ffafriol ag unedau Mamolaeth eraill â niferoedd genedigaethau tebyg."
Cyfarfod: 17/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth pediatreg, obstetreg dan arweiniad ymgynghorydd ac uned gofal arbennig babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 41 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 07.09.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 1 MB
- 25.05.2017 Gohebiaeth – Deisebydd at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 680 KB
- 04.10.17 Gohebiaeth – gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 3 MB
- 05.10.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 200 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda, ynghyd â
sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd i
ofyn am ei ymateb i'r pryderon diweddaraf a fynegwyd gan y deisebydd, a gofyn
am fanylion ynghylch pa mor aml y defnyddiwyd y cerbyd ambiwlans dynodedig i
drosglwyddo menywod a phlant ar frys o Ysbyty Llwynhelyg i Ysbyty Glangwili.
Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 39 KB Gweld fel HTML (2/1) 10 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2 PDF 84 KB Gweld fel HTML (2/2) 38 KB
- 06.07.17 Gohebiaeth - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon at y Cadeirydd, Eitem 2 PDF 282 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a
ganlyn:
- nodi'r
ffaith i ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet ddod i law yn union cyn yr oedd
y papurau i fod i gael eu cyhoeddi, a rhoi cyfle arall i'r deisebydd
gwneud sylw ar yr ymateb ac unrhyw ymateb a geir gan Fwrdd Iechyd
Prifysgol Hywel Dda; ac
- ysgrifennu
at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn:
o
pa asesiad y mae wedi ei wneud o effaith y newidiadau i wasanaethau
Obstetreg, Pediatreg a'r Uned Gofal Arbennig Babanod yn yr ardal ers
iddynt gael eu canoli yn Ysbyty Glangwili;
o
am ragor o wybodaeth am sut y mae cyfraddau marwolaethau amenedigol diweddar
yn cymharu â'r cyfraddau a welwyd o dan y cyfluniad blaenorol o wasanaethau; ac
o
a oes unrhyw ddata ar gael am
amseroedd trosglwyddo cleifion i Ysbyty Glangwili o'u cymharu ag amseroedd
trosglwyddo i ysbytai eraill o dan y trefniadau blaenorol.