Cyfarfodydd

P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deisebau P-05-767 a P-05-792 a chytunodd i gau'r deisebau yn sgil y sicrwydd a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y bydd y deisebau a barn cymunedau lleol yn cael eu hystyried yn ystod yr Adolygiad Terfyn Cyflymder parhaus, a'r posibilrwydd na allai'r Pwyllgor Deisebau gymryd llawer o gamau pendant eraill.

 

 


Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes a P-05-7922 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth, a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am y canlynol:

 

  • manylion pellach am gynnydd yr Adolygiad o Derfyn Cyflymder hyd yma, yr egwyddorion sy'n sail iddo a'r meini prawf asesu a ddefnyddiwyd; ac
  • enghreifftiau ymarferol o leoedd a adolygwyd yn ystod 2018 hyd yma, a beth oedd y canlyniad ym mhob achos.

 

 


Cyfarfod: 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor eisoes i grwpio'r ddeiseb hon i'w thrafod gyda P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes a P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth. 

 

Trafododd yr Aelodau yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a fydd yn ystyried datblygu rhaglen Adolygiad Terfyn Cyflymder a sicrhau ei fod ar gael yn gyhoeddus, er mwyn ymateb i bryderon am ddiffyg natur agored y broses. 

 

 


Cyfarfod: 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-767 Cefnffordd yr A487 trwy Dre Taliesin: angen brys am fesurau effeithiol i arafu traffig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn:

·         o gofio bod yr adolygiad o derfynau cyflymder dros dair blynedd yn cynnwys dros 600 o safleoedd, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu blaenoriaethu gwaith yr adolygiad hwnnw;

·         am ragor o wybodaeth am sut y gellir cynnwys cymunedau yn yr adolygiad o derfynau cyflymder dros dair blynedd.

 

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-767 Cefnffordd yr A487 trwy Dre Taliesin: angen brys am fesurau effeithiol i arafu traffig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:

·         yn gofyn am ragor o fanylion am amseriad yr adolygiad o fesurau diogelwch posibl ar gyfer yr A487 ac yn gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor am y canlyniad maes o law; ac

·         yn gofyn a fydd ei swyddogion yn cwrdd â'r grŵp gweithredu.