Cyfarfodydd

P-04-337 Tenovus: Eli haul am ddim

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-337 Tenovus: Eli haul am ddim

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb.

 

Cytunodd y Pwyllgor i:

Gyfeirio pob gwybodaeth a gohebiaeth ynghylch y ddeiseb at ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i bolisi ar amddiffyn rhag yr haul;

Cau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ynghylch eli haul am ddim i bawb o dan 11 oed

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch eli haul am ddim i bawb o dan 11 oed

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 01/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ystyried y ddeiseb sy'n galw am roi eli haul am ddim i bawb o dan 11 oed yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i bolisi amddiffyn rhag yr haul ac i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn rhoi gwybod iddo am y penderfyniad.

 


Cyfarfod: 15/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Papur i'w Nodi - P-04-337 Tenovus: Eli Haul am Ddim

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur.

 


Cyfarfod: 11/10/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-337 Tenovus: Eli haul am ddim

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru am y mater hwn; a

chyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.