Cyfarfodydd

P-04-334 Uned Arennol Newydd yn Ysbyty Tywysog Siarl

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-334 Uned Arennol Newydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth weinidogol ar y ddeiseb ac yn sgîl y penderfyniad i adeiladu uned arennol newydd, cytunwyd i gau’r ddeiseb. Gwnaeth y Pwyllgor longyfarch y prif ddeisebydd am ei ddyfalbarhad wrth ddilyn y mater hwn.

 


Cyfarfod: 06/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-334 Uned arennol newydd yn Ysbyty Tywysog Siarl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y penderfyniadau a wnaed yn dilyn trafodaethau â Rhwydwaith Clinigol Arennol Cymru.

 

 


Cyfarfod: 17/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-334 Uned Arennol Newydd yn Ysbyty Tywysog Siarl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth sy’n gysylltiedig â’r mater hwn a chytunodd i aros am benderfyniad ar uned newydd a ddisgwylir ym mis Awst 2012.

 


Cyfarfod: 19/06/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-334 Uned Arennol Newydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl - trafod ymweld ag Uned Pentwyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu Bethan Jenkins yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ynghylch yr ymweliad rapporteur i’r uned arennol ym Mhentwyn, Caerdydd.

Cytunodd y Pwyllgor i:

geisio gwybodaeth am y cynlluniau presennol ar gyfer uned arennol newydd ym Merthyr Tudful; ac

aros am ymateb i lythyr y Cadeirydd at Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a oedd yn ceisio’r wybodaeth ddiweddaraf am y cyfarfod arfaethedig â chleifion uned arennol Ysbyty’r Tywysog Siarl.

 


Cyfarfod: 07/02/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-334 Uned arennol newydd yn Ysbyty Tywysog Siarl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ymweliad rapporteur ag uned arennol Ysbyty'r Tywysog Siarl a chytunodd i:

Gynnal ymweliad â’r uned arennol ym Mhentwyn, Caerdydd, gan estyn gwahoddiad i unrhyw gleifion yn uned Ysbyty'r Tywysog Siarl a hoffai fynd iddo;

Ysgrifennu at y Gweinidog gan wneud cais am y wybodaeth ddiweddaraf am yr achos busnes dros fuddsoddi cyfalaf yn Ysbyty'r Tywysog Siarl.

 


Cyfarfod: 11/10/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-334 Uned Arennol Newydd yn Ysbyty Tywysog Siarl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Cwm Taf; Cyngor Iechyd Cymunedol Cwm Taf; a Sefydliad Aren Cymru i geisio eu barn am y ddeiseb hon.