Cyfarfodydd
Strategaeth Rhyngwladol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 07/11/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Fframwaith ar gyfer Ymgysylltu Rhyngwladol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
Croesawodd y Comisiynwyr
fersiwn ddiweddaraf y fframwaith ar y cymorth y mae’r Comisiwn yn ei roi ar
gyfer gweithgarwch seneddol rhyngwladol yn ystod y Chweched Senedd. Bydd y
fframwaith yn galluogi’r Comisiwn i ddangos sut y mae’n gweithio tuag at
gyflawni’r canlyniadau a nodwyd, gan ddangos cryfderau’r Senedd a’r Comisiwn a
chysylltu’n uniongyrchol â buddiannau o ran polisi a gweithdrefn, yn ogystal â
buddiannau corfforaethol.
Trafododd y Comisiynwyr
y gweithgarwch rhyngwladol sy’n rhan o rôl Aelod, gan gydnabod ei bod yn bwysig
i Aelodau fod yn ymwybodol o ddarpariaethau'r Penderfyniad yn ogystal â’r
cymorth y mae’r Comisiwn yn ei ddarparu ar gyfer gweithgareddau amrywiol.
Cytunwyd ar y fframwaith, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Senedd.
Cyfarfod: 15/03/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Adolygiad o’r Fframwaith ar gyfer Ymgysylltiad Rhyngwladol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
wybodaeth am y gwaith rhyngwladol a wnaed gan y Senedd ar gyfer y cyfnod rhwng
mis Ionawr 2019 a mis Mawrth 2021.
Cyfarfod: 28/01/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Ymgysylltiad rhyngwladol - adroddiad cynnydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
ddiweddariad i gyflwyno'r gwaith a nodir yn y Fframwaith ar gyfer Ymgysylltiad
Rhyngwladol y Cynulliad yn ystod y Pumed Cynulliad. Codwyd y potensial i
weithio'n agosach gyda Chwnsleriaid Anrhydeddus.
Cyfarfod: 20/07/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)
Rhaglen Ddrafft Gwaith Rhyngwladol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
Croesawodd Manon Al Davies i'r cyfarfod i gyflwyno'r rhaglen waith ar gyfer
2017-2020. Y bwriad oedd ategu'r Fframwaith ar gyfer Ymgysylltu Rhyngwladol y
Cynulliad yn ystod y Pumed Cynulliad, a gafodd ei gyflwyno i'r Comisiwn ar 15
Mai, ac a oedd wedi'i lunio i adlewyrchu'r Cynulliad fel deddfwrfa ryngwladol
fach ond blaengar ac arloesol a oedd yn agored ac yn edrych tuag allan. Roedd y
rhaglen waith arfaethedig yn ddigon hyblyg i wneud lle ar gyfer ymgysylltu a
gweithgareddau ychwanegol yn ôl yr angen, gan fod angen rhoi ystyriaeth i
effaith Brexit a chysylltiadau eraill.
Roedd gwerth am arian bob amser yn cael ei ystyried yn y rhaglen gynllunio,
er mai fersiwn drafft iawn ydyw ar hyn o bryd ac nad oes manylion cyllideb
manwl ond fe fyddai'n cael ei chyflwyno o fewn y gyllideb ymgysylltu bresennol.
Gwahoddwyd y Bwrdd Rheoli i drafod ac awgrymu newidiadau neu ychwanegiadau
i'r rhaglen waith.
Cytunodd y Bwrdd fod y rhaglen waith yn cynnig gwerth am arian, gan
argymell y gallai staff presennol sy'n siarad ieithoedd eraill gael eu
defnyddio i helpu'r tîm rhyngwladol.
Cyfarfod: 15/05/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Fframwaith ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol y Cynulliad yn ystod y Pumed Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15
Cofnodion:
Trafododd
y Comisiynwyr bapur a oedd yn nodi fframwaith drafft ar gyfer datblygu rhaglen
ystyrlon a chydgysylltiedig o waith rhyngwladol ar gyfer y Pumed Cynulliad.
Roeddent
yn cefnogi bwriad y fframwaith, i leoli'r Cynulliad ar y llwyfan rhyngwladol
fel deddfwrfa fach ond yn un wahanol, arloesol a blaengar, a chytunwyd y dylai
ymgysylltu rhyngwladol y Comisiwn gael ei gefnogi trwy ddiben clir. Yn
arbennig, tynnodd y Comisiynwyr sylw at ba mor bwysig yw edrych at allan a
rhannu'r hyn a wnawn, a nodi meysydd eraill ble y gallem ddatblygu rôl er mwyn
manteisio ar gyfleoedd ychwanegol.
Bydd
cynllun cyflawni yn cael ei baratoi, gan roi ystyriaeth i safbwyntiau'r
Comisiwn.
Cyfarfod: 26/01/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Yr wybodaeth ddiweddaraf o ran yr UE
Cofnodion:
Wedi i Gynghorwr blaenorol y
Comisiwn ar yr UE adael, rhoddwyd gwybod i'r Comisiynwyr am y trefniadau newydd
a oedd wedi'u rhoi ar waith, gan ystyried y modd y mae'r sefyllfa wedi newid yn
dilyn y refferendwm ar yr UE.
Bydd deiliad newydd y swydd yn gweithio yng Nghaerdydd ac yn teithio'n aml
i Frwsel i barhau i rwydweithio a chynrychioli buddiannau'r Cynulliad a hwyluso
ymweliadau gan Aelodau a phwyllgorau.
Cyfarfod: 04/12/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Ymgysylltiad Swyddfa'r UE a'r Cynulliad ar faterion yr UE