Cyfarfodydd

Ymchwiliad i'r cynigion deddfwriaethol drafft ynghylch Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2014-2020

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/01/2013 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Sesiwn ddiweddaru: Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (13:30 - 14:00)

Yr Athro Danuta Maria Hübner ASE, Cadeirydd, y Pwyllgor ar Ddatblygu Rhanbarthol

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Danuta Maria Hübner ASE, a roddodd dystiolaeth drwy gyfrwng fideo gynhadledd. Bu’r Aelodau yn holi’r tyst.


Cyfarfod: 02/02/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Cynigion deddfwriaethol drafft ynghylch cronfeydd strwythurol yr UE ar gyfer 2014-2020 - ystyried adroddiad drafft y pwyllgor (14.30 - 15.00)

EBC(4)-04-12 : Papur 2

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad. Bydd fersiwn diwygiedig yn cael ei ddosbarthu a’i gytuno y tu allan i’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 19/01/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i'r cynigion deddfwriaethol drafft ynghylch Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2014-2020: Craffu ar waith y Gweinidog

Alun Davies AC, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd
Damien O'Brien, Cyfarwyddwr Rhaglenni Ewropeaidd
Rob Halford, Pennaeth Cynllunio a Strategaeth, WEFO

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Dirprwy Weinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r Dirprwy Weinidog.


Cyfarfod: 11/01/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i'r cynigion deddfwriaethol drafft ynghylch Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2014-2020: sesiwn dystiolaeth

EBC(4)-01-12 Papur 4 & 5

 

Judith Stone; Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Phil Fiander; Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Katy Chamberlain; Chwarae Teg -Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

 

Lowri Gwilym;  Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Neville Davies; Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Peter Mortimer; Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Judith Stone, Phil Fiander, Katy Chamberlain, Lowri Gwilym, Neville Davies a Peter Mortimer i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

3.2 Cytunodd tystion Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i roi rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor am raglenni ymchwil a datblygu llwyddiannus ledled Ewrop a oedd wedi defnyddio cronfeydd strwythurol.

 


Cyfarfod: 11/01/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i'r cynigion deddfwriaethol drafft ynghylch Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2014-2020: sesiwn dystiolaeth

EBC(4)-01-12 Papur 1,2 & 3

 

Iestyn Davies, Ffederasiwn Busnesau Bach

 

Yr Athro Richard B. Davies, Addysg Uwch Cymru

Greg Walker, Addysg Uwch Cymru

Berwyn Addysg Uwch Cymru

 

Yr Athro Phil Gummett Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Iestyn Davies, yr Athro Phil Gummett, yr Athro Richard B Davies, Greg Walker a Berwyn Davies i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

2.2 Cytunodd Addysg Uwch Cymru i anfon gwybodaeth i’r Pwyllgor am nifer y prosiectau FP7 sy’n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd.


Cyfarfod: 24/11/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Ymchwiliad i'r cynigion deddfwriaethol drafft ynghylch Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2014-2020: sesiwn dystiolaeth

Derek Vaughan, ASE o Gymru

Jill Evans, ASE o Gymru

Cofnodion:

3.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i Jill Evans ASE a Derek Vaughan ASE. Holodd yr Aelodau y tystion.


Cyfarfod: 24/11/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Ymchwiliad i'r cynigion deddfwriaethol drafft ynghylch Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2014-2020: sesiwn dystiolaeth

Jeroen Jutte, Dirprwy Bennaeth Uned Deddfwriaeth a Pholisi’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a Chynllunio Ariannol, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol a Chynhwysiant

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Jeroen Jutte a XX i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.

 

2.2 Cytunodd Jeroen Jutte i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor ynghylch:

·         Y mentrau peilot sydd wedi defnyddio offerynnau peiriannu ariannol a ariannwyd drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

·         Y sail resymegol i’r dull arfaethedig o werthuso’r cronfeydd strwythurol fel y’i nodir yn y rheoliadau drafft, a sut y mae hynny’n wahanol i’r trefniadau presennol.   


Cyfarfod: 16/11/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Ymchwiliad i'r cynigion deddfwriaethol drafft ynghylch Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2014-2020

·         Veronica Gaffey, Cyfarwyddwr Dros Dro, Cyfarwyddiaeth Datblygu y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Polisi Rhanbarthol

 

Trwy gynhadledd fideo

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Veronica Gaffey i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau yn holi’r tyst.

 

2.2 Cytunodd Veronica Gaffey i ddarparu rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor ynghylch sut y byddai’r dull aml-gronfa ar gyfer strategaethau datblygu a gaiff eu harwain gan y gymuned yn gweithio o ran defnyddio cyfraddau ymyrryd gwahanol rhwng y gwahanol gronfeydd.


Cyfarfod: 06/10/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i Gronfeydd Strwythurol yr UE : Trafod y Cylch Gorchwyl

Dogfennau ategol:

  • EBC(4)-05-11 Papur 3 - Ymchwiliad i Gronfeydd Strwythurol yr UE (Saesneg yn Unig)

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y cylch gorchwyl drafft ar gyfer yr ymchwiliad i gronfeydd strwythurol yr UE, a chytunwyd arno.